Mae Clwb Rygbi’r Drindod Dewi Sant wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin, ond mae ar gael i holl fyfyrwyr PCyDDS. Mae'r tîm yn chwarae yng nghynghreiriau BUCS ac yn croesawu pob gallu i ddod draw ac ymuno â'r tîm. Cynhelir y brif sesiwn ymarfer ar nos Lun o 5pm ar Gampws Caerfyrddin. Yn ogystal, mae yna sesiynau sgiliau a chryfhau trwy gydol yr wythnos y gall aelodau gymryd rhan ynddynt.
Fel arfer, caiff gemau Cynghrair a Chwpan BUCS eu chwarae ar brynhawn Mercher. Dewch draw ac ymunwch â ni!
Rydym hefyd yn rhedeg clwb rygbi i fenywod. Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am amseroedd a dyddiadau'r sesiynau hyn.