Hysbysiad Cyfryngau

Mae Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant (UMYDDS) yn cadw'r hawl i ffilmio, tynnu lluniau a recordio sain yn ein digwyddiadau.

Gall Undeb y Myfyrwyr a/neu Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ddefnyddio’r delweddau, fideo a sain hyn at ddibenion sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddeunyddiau hyrwyddo printiedig, dyluniadau digidol, fideos hyrwyddo a physt ar gyfryngau cymdeithasol.

Trwy fynychu digwyddiad, rydych yn rhoi hawl i UMYDDS ddefnyddio’r delweddau, fideo a sain hyn ar ffurf trwydded fyd-eang, drosglwyddadwy, heb freindal na chyfyngiadau ynghlwm wrthi. Ni fydd modd i chi hawlio unrhyw werth ariannol amdano.

Os nad ydych am i'ch llun gael ei dynnu yn ystod digwyddiad, rhowch wybod i un o'n ffotograffwyr ar yr adeg fel bod modd cymryd mesurau priodol.

Os ydych am i ni ddileu llun ohonoch chi, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data dynodedig:

su.data@uwtsd.ac.uk