Ailgylchu

Ailgylchu Batris

Gall myfyrwyr ailgylchu batris cyffredin, AAA, AA, a.y.b. yn y lleoliadau canlynol;

Campws Lleoliad

Caerfyrddin

Derbynfa Dewi Sant

Llambed

Swyddfa'r Porthorion

Abertawe

Swyddfa Undeb y Myfyrwyr

 


 

Ailgylchu Dillad

Rhowch eich hen ddillad yn y banciau priodol. Ni chaniateir duvets na gobenyddion. Mae’r ‘Banc Bronglwm’ wedi'i leoli yn swyddfa Undeb y Myfyrwyr, Caerfyrddin. Caiff brâs nad oes bellach eu hangen, sydd mewn cyflwr glân a thaclus, eu casglu a'u hanfon at gwmni sy'n eu trwsio a’u hadnewyddu; wedyn cânt eu rhoi i fenywod yn Affrica.

Campws Lleoliad

Caerfyrddin

Mae banc dillad y tu allan i ABN2. 

Llambed

Mae’r Banc Brâs yn swyddfa’r UM

Abertawe

Darperir bagiau i fyfyrwyr sy'n byw yn neuaddau'r Brifysgol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

 


 

Ailgylchu Offer Trydanol

Peidiwch â gwaredu eitemau trydanol sydd wedi torri neu rai nad oes bellach eu hangen, gan y gellir eu hailgylchu. Gallwch adael eich eitemau trydanol yn y lleoliadau canlynol;

Campws Lleoliad

Caerfyrddin

Swyddfa Undeb y Myfyrwyr

Llambed

Swyddfa Undeb y Myfyrwyr

Abertawe

Swyddfa Undeb y Myfyrwyr

 


 

Bagiau Ailgylchu

Gall myfyrwyr sy'n byw yn ninas a sir Abertawe gasglu bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd o Swyddfa Undeb Myfyrwyr Abertawe.