Croeso i Hyb Staff y Brifysgol - adnodd canolog ar gyfer yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar staff PCyDDS am Undeb y Myfyrwyr - o benodi cynrychiolwyr cwrs ac etholiadau myfyrwyr i ddigwyddiadau a gwasanaethau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ein Tîm Llais Myfyrwyr: studentvoice@uwtsd.ac.uk.
Ein nod yw gwneud pob myfyriwr yn gartrefol yn PCyDDS ar ddechrau eu hastudiaethau. Bydd ein sesiynau sefydlu’n helpu eich myfyrwyr i ddeall popeth sydd gan yr Undeb i'w gynnig. Gellir cyflwyno'r sesiynau hwyliog, rhyngweithiol a hygyrch hyn wyneb-yn-wyneb neu ar-lein; maent yn para rhwng 30 munud ac awr.
Cyn y gallwn ni fynd ati i sefydlu myfyrwyr, mae ychydig o bethau y mae angen i chi eu gwneud:
Rydyn ni'n rhoi trosolwg i'ch myfyrwyr o bopeth mae Undeb y Myfyrwyr yn ei gynnig.
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu hyn ar yr amser a dyddiad rydych chi wedi’i nodi - ond bydd hyn yn cael ei gadarnhau mewn e-bost dilynol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch studentvoice@uwtsd.ac.uk.
Croeso ar gyfer ein Glasfyfyrwyr. I ddathlu eich dyfodiad i PCyDDS, rydym yn cynnal digwyddiadau, ac mae gan bob campws ei raglen ei hun.