Mae Cynrychiolwyr Cyrsiau yn rhan annatod o'n hymagweddiad tuag at bartneriaeth, sydd â'r nod o gynnwys llais myfyrwyr mewn llunio penderfyniadau ar bob lefel ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant (PCDDS). Er mai cynrychiolwyr myfyrwyr yw Cynrychiolwyr Cwrs, er mwyn i'n system fod yn effeithiol, mae gan staff academaidd rôl i'w chwarae mewn sicrhau bod cynrychiolwyr yn cael eu hethol ar gyfer pob cwrs.
Mae Cynrychiolwyr Cyrsiau'n gweithredu fel sianel ar gyfer llais myfyrwyr yn eu rôl ar bwyllgorau Staff-Myfyrwyr. Maent hefyd yn darparu adborth i Undeb y Myfyrwyr ar bob agwedd o'r profiad addysgol, megis datblygiad cwricwlwm, adborth ac asesiad, strwythur cyrsiau, cyfleusterau ac adnoddau, dulliau dysgu/addysgu, a phrofiad academaidd cyffredinol eu cyd-fyfyrwyr. Bydd yr adborth hwn a'r cynrychiolwyr eu hunain yn chwarae rôl allweddol mewn prosesau ansawdd mewnol megis Adolygiadau Rhaglenni Blynyddol ac adolygiadau ar lefel Ysgol a Chyfadran.
Unwaith y cewch eich ethol, darperir hyfforddiant i'n holl Gynrychiolwyr gan Undeb y Myfyrwyr, gyda chefnogaeth adran Profiad Myfyrwyr y Brifysgol.
Dewch o Hyd i'ch Cynrychiolydd Cwrs neu Dewch yn Un
Os ydych chi eisiau darganfod pwy yw'ch Cynrychiolydd Cwrs neu Ddosbarth, neu eisiau dysgu am y broses o ddod yn un, cysylltwch â thîm llais y myfyrwyr.