Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr

Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn cynrychioli myfyrwyr ar lefel Athrofa yn y Brifysgol. Maent yn cydlynu â Chynrychiolwyr Cwrs i nodi unrhyw dueddiadau ar draws yr Athrofa a chodi problemau gydag uwch staff y brifysgol. Eu rôl nhw yw sicrhau bod profiadau a barn myfyrwyr yn cael eu hystyried yn briodol pan wneir penderfyniadau mewn cyfarfodydd fel Bwrdd yr Athrofa. Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn bwysig iawn i brofiad academaidd myfyrwyr! 

Mae yna 11 Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr i gyd: 

  • 3 ar gyfer yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau (Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe) 
  • 2 ar gyfer yr Athrofa Ddysgu Canol y Ddinas (Birmingham ac Llundain)
  • 3 ar gyfer yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd (Caerfyrddin, Abertawe, ac Pellter ac Allgymorth) 
  • 3 ar gyfer Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (Caerdydd, Caerfyrddin ac Abertawe) 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm llais y myfyrwyr at studentvoice@uwtsd.ac.uk.