![]()
Rydym yn recriwtio Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 i helpu â llunio bywyd myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant drwy gasglu adborth a gweithio gyda ni i sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei chlywed ar lefelau uchaf y brifysgol.
Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn derbyn bwrsariaeth o £450 am eu gwaith. Mae ceisiadau bellach ar agor a byddant yn cau am 17:00 ddydd Gwener, 30ain Ionawr 2026.
Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn alinio ag athrofeydd y brifysgol. Fel myfyriwr, mae eich cwrs yn perthyn i un o'r athrofeydd hyn, a dyna'r rôl Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr y gallwch chi wneud cais amdani. Peidiwch â phoeni os ydych chi'n ansicr i ba athrofa mae eich cwrs yn perthyn - mae gennym ni declyn chwilio defnyddiol isod. Teipiwch deitl eich cwrs i mewn, a byddwn ni'n dod o hyd i’r ateb i chi.
Mae Cynrychiolwyr Llais Myfyrwyr yn alinio ag athrofeydd y brifysgol. Fel myfyriwr, mae eich cwrs yn perthyn i un o'r athrofeydd hyn, a dyna'r rôl Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr y gallwch chi wneud cais amdani.
Peidiwch â phoeni os ydych chi'n ansicr i ba athrofa mae eich cwrs yn perthyn - mae gennym ni declyn chwilio defnyddiol isod. Teipiwch deitl eich cwrs i mewn, a byddwn ni'n dod o hyd i’r ateb i chi. Os ydych chi'n dal yn ansicr neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ni yn studentvoice@uwtsd.ac.uk.
Bydd canlyniadau eich chwiliad yn ymddangos yma