Staff Myfyrwyr yr UM

Mae hon yn rôl newydd gyffrous yn Undeb y Myfyrwyr a fydd yn hyblyg i ddiwallu anghenion y mudiad.  Bydd y rôl yn darparu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau myfyrwyr gydol y tymor, yn enwedig yn ystod Wythnos y Glas.  Bydd y rôl yn cynorthwyo â gweithgareddau cymunedol o fewn adeilad Undeb y Myfyrwyr yn ystod yr wythnos ac ar fin-nos. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeilydd y rôl weithio ym mar Undeb y Myfyrwyr hyd at 2 waith yr wythnos rhwng 20:00 a 02:00 gan ddarparu gwasanaeth eithriadol i fyfyrwyr yn ein nosweithiau bar a chlwb.

 

Gwybodaeth Allweddol

Cyflog

£12.21 per hour

Math o Gontract

Contract tymor penodol: Cytundeb cyfnod penodol tan ddydd Iau 11eg Rhagfyr 2025 

Oriau Gwaith

Oriau gwaith wythnosol amrywiol i gyd-fynd ag anghenion y busnes, unrhyw bryd rhwng dydd Llun a dydd Sul, 10:00 - 02:00

Lleoliad

Campws Caerfyrddin

Yn Gyfrifol i

Staff Gyrfa’r UM


Main Duties

  1. I fod yn bwynt cyswllt cyffredinol i fyfyrwyr yn ystod cyfnod yr Wythnos Groeso i ddechrau.  
  2. Cefnogi, ymgysylltu a chynnwys myfyrwyr ym mhob math o weithgareddau’r undeb yn ystod y cyfnod hwn a gallu atgyfeirio pobl yn effeithiol.  
  3. Bod yn wyneb cyfeillgar a phwynt cyswllt i fyfyrwyr trwy gydol y flwyddyn mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau/gweithgareddau. 
  4. Cefnogi, ymgysylltu a chynnwys myfyrwyr ym mhob math o weithgareddau’r undeb a gallu atgyfeirio'n effeithiol.
  5. Cefnogaeth barhaus ar deithiau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn.
  6. Mynychu diwrnodau agored y Brifysgol
  7. Dod i’r gwaith yn brydlon mewn dillad neu iwnifform addas yn ôl yr angen
  8. Gweini amrywiaeth o ddiodydd, gan gynnwys alcohol, i fyfyrwyr 
  9. Cymryd taliad cywir am ddiodydd / byrbrydau a werthir
  10. Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn cael eu dilyn bob amser
  11. Cofnodi oriau a weithiwyd yn gywir
  12. Nodi os yw stoc yn isel a rhoi gwybod i Reolwr y Lleoliad a Digwyddiadau
  13. Cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth a'r amodau trwyddedu perthnasol, yn ogystal â chwblhau'r cofnodion ar gyfer adrodd yn ôl, y systemau archwilio a'r systemau arian parod angenrheidiol, gan hysbysu rheolwr y Bar am unrhyw bryderon neu fethiannau yn brydlon. 
  14. Cydymffurfio â chôd ymddygiad Undeb y Myfyrwyr a chanllawiau llawlyfr y staff
  15. Sicrhau bod pob gofal rhesymol yn cael ei gymryd o ran eich iechyd a'ch diogelwch chi, gweithwyr eraill, gwesteion a phobl eraill ar y safle.
  16. Sicrhau eich bod yn cyflwyno delwedd briodol i gwsmeriaid, gan gynnal a hyrwyddo holl bolisïau Undeb y Myfyrwyr. 
  17. Adrodd, a lle bo modd cymryd camau gweithredu, ar unrhyw ddamweiniau neu ddifrod.
  18. Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol bob amser
  19. Sicrhau bod pob drws tân ar gau a bod llwybrau tân yn cael eu cadw'n glir bob amser.
  20. Cefnogi gweithrediadau'r bar mewn ardaloedd eraill o UMyDDS a'r Brifysgol yn ôl yr angen.
  21. Hyrwyddo a hysbysebu gweithgareddau, cynhyrchion a gwasanaethau’r bar yn effeithiol 
  22. Mynychu unrhyw hyfforddiant yn ôl cyfarwyddyd eich rheolwr a chyflawni unrhyw gais rhesymol arall a wneir gan y Rheolwyr.
  23. Gall deilydd y swydd ddisgwyl gweithio mewn sawl digwyddiad i'r Brifysgol fel rhan o'r rôl hon er mwyn hyrwyddo'r ysbryd partneriaeth sy'n bodoli rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.
     

General Duties

  1. Cefnogi, cynghori a chynorthwyo swyddogion myfyrwyr etholedig i gyflawni eu nodau a'u hamcanion.
  2. Cyflawni'r holl Gyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch perthnasol.
  3. Cydymffurfio â holl Bolisïau a Gweithdrefnau perthnasol Undeb y Myfyrwyr.
  4. Cydymffurfio â holl Bolisïau a Gweithdrefnau perthnasol PCyDDS.
  5. Bod yn barod i addasu i newid a chaffael sgiliau a gwybodaeth newydd a pherthnasol trwy gymryd cyfrifoldeb priodol am eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.
  6. Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr mewn rhwydweithiau, digwyddiadau a chynadleddau proffesiynol perthnasol.
  7. Cefnogi a hyrwyddo gwerthoedd Undeb y Myfyrwyr wrth ymgymryd â dyletswyddau, gan ddangos ymrwymiadau i gydraddoldeb, dwyieithrwydd a democratiaeth.
  8. Ymrwymo i weithio mewn modd cynaliadwy, ymwneud ag egwyddorion Effaith Werdd a cheisio lleihau effaith amgylcheddol Undeb y Myfyrwyr trwy weithredu fel model rôl a hyrwyddwr ar gyfer gweithio cynaliadwy.

Ceisiadau a Chyfweliadau

Ceisiadau'n Cau
2 Medi 2025

Cyfweliadau
11 Medi 2025

Dyddiad Cychwyn Arfaethedig
15 Medi 2025

Ymgeisiwch Nawr