Crynodeb o'r Gwasanaeth Cynghori

Dydd Mawrth 06-05-2025 - 10:48

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ailgyflwyno'r Tîm Cynghori – eich ffynhonnell gymorth ar gyfer popeth sy'n ymwneud â'r byd academaidd a’r brifysgol. 

P'un a ydych chi wedi bod gyda ni ers tro neu newydd ddarganfod beth rydyn ni'n ei wneud, dyma grynodeb o bopeth rydyn ni wedi'i lansio hyd yn hyn, a’r hyn sydd i ddod nesaf!

Dewch i Gwrdd â'r Tîm (Eto!)

Fe wnaethon ni gychwyn pethau gyda'r blog ar “Eich Gwasanaeth Cynghori” , lle rhannwyd fideo byr oedd yn cynnwys Sophie ac Alice, rhai o'r wynebau cyfeillgar y tu ôl i'ch Tîm Cynghori. Dyma oedd ein ffordd ni o ddweud “helo eto!” a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth yw’r Gwasanaeth Cynghori a sut y gallant eich helpu chi trwy gydol eich amser yn y brifysgol.

Cyfres Cynghori 101

Nesaf, efallai eich bod wedi gweld ein fideos wythnosol ar Instagram @uwtsdunion oedd yn dadansoddi prosesau allweddol y brifysgol, o gamymddwyn academaidd i apeliadau, cwynion ac amgylchiadau esgusodol. Gwnaethon ni eich tywys trwy beth ydyn nhw, sut maen nhw'n gweithio a beth allwch chi ei wneud os byddwch yn cael eich hun yn un o'r sefyllfaoedd hyn.

Ac os methoch chi ein Instagram, peidiwch â phoeni – rydyn ni nawr wedi casglu’r holl fideos at ei gilydd; y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw isod. 

Chwalu Mythau

Dydyn ni ddim wedi gorffen eto! Fis Mai eleni, rydym yn lansio Chwalu Mythau - lle byddwn yn mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin ynghylch y Gwasanaeth Cynghori a phrosesau’r brifysgol.

Ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod sut mae ein Gwasanaeth Cynghori’n gweithio? - Byddwn yn gofyn cwestiynau ‘gwir neu gelwydd’ ar ein Instagram ac yn eu harddangos ar faneri teledu o amgylch y campws er mwyn helpu i brofi eich gwybodaeth a'ch helpu i ddod yn fwy cyfarwydd â phrosesau'r brifysgol a'r Gwasanaeth Cynghori. 

Rhyddhau Canlyniadau

Byddwch yn gallu dod o hyd i ni mewn sesiynau dros-dro ar ein campysau yn Llundain a Birmingham ar gyfer cyhoeddi canlyniadau.

Byddwn ni yno i'ch helpu chi i lywio'r camau nesaf ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau; dewch i ddweud helo, darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael a chwrdd â'r tîm

Sesiynau dros-dro Birmingham: 14 a 17 Mai.

Sesiynau dros-dro Llundain: 9, 12 a 14 Mehefin

Byddwn yn postio diweddariadau ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael ar ein cyfryngau cymdeithasol trwy gydol cyfnod cyhoeddi’r canlyniadau

Y Diweddaraf am yr Hyb Cynghori

P'un a ydych chi eisoes wedi bod mewn cysylltiad â ni neu newydd glywed amdanom ni nawr, mae ein Gwasanaeth Cynghori bob amser am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol, ac mae ein tîm wrth law i sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth gywir i wneud penderfyniadau gwybodus. 

Rhan o hyn yw ein hyb cynghor, lle rydym yn creu ac yn postio adnoddau ar gyfer cyngor academaidd a phynciau sydd y tu hwnt i gyngor academaidd. 

Rydym newydd ychwanegu 2 adnodd newydd i'ch helpu i ddeall rhai o adrannau'r brifysgol a rhywfaint o'r iaith y gallech ddod ar ei thraws tra byddwch yn y brifysgol.

Cysylltiadau’r Brifysgol

Geirfa Myfyrwyr

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...