Newid yng Nghyngor y Campws a Chyngor yr Undeb!

Dydd Llun 15-02-2021 - 07:44

Oherwydd gwrthdaro o ran amseru, nid oedd ein Swyddogion Rhan-Amser yn gallu mynychu’r cynghorau campws blaenorol, felly rydym yn eu haildrefnu i sicrhau bod y SRhA yn gallu bod yno i'ch cynrychioli chi! 

 

Mae'r dyddiadau a'r amseroedd newydd isod, a chynhelir y rhain i gyd ar Microsoft Teams; os nad ydych chi'n SRhA ond yr hoffech chi fynychu un o’r cyfarfodydd hyn, gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiadau yma, a gallwch wirio’r agendâu ar gyfer Cynghorau Campws yma, a Chyngor yr Undeb yma.

 

Mae'r dyddiadau a'r amseroedd wedi’u haildrefnu fel a ganlyn:

 

Cyngor Campws Llambed

Dydd Mawrth 16 Chwefror, 15:00

Aildrefnu: Dydd Llun 22 Chwefror, 18:00 

 

Cyngor Campws Caerfyrddin

Dydd Mawrth 23 Chwefror, 18:00

 

Cyngor yr Undeb

Dydd Mercher 24 Chwefror, 17:00

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Gyngor y Campws neu Gyngor yr Undeb, mae croeso i chi gysylltu â'r aelod staff perthnasol; gallwch ddod o hyd i'w manylion isod:

 


Andrew Jones

Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr: Abertawe

Andrew.G.Jones@wtsd.ac.uk

 

Laura-Cait Driscoll

Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr: Llambed

Laura-Cait.Driscoll@uwtsd.ac.uk

 

Laura Yates

Cydlynydd Cyfleoedd Myfyrwyr: Caerfyrddin

Laura.Yates@uwtsd.ac.uk

 

Taz Jones

Pennaeth Gwasanaethau’r Aelodaeth

Taz.Jones@uwtsd.ac.uk

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...