Hysbysiad o Is-Etholiad ar gyfer Llywydd Caerdydd ac Abertawe 2025/26

Dydd Mawrth 29-04-2025 - 09:44

Rydym yn chwilio am fyfyriwr i fod yn Llywydd Caerdydd ac Abertawe ar gyfer 2025/26. Mae hon yn rôl gyflogedig, lawn-amser, lle mae ymgeiswyr yn cael eu hethol i'r rôl trwy bleidlais y myfyrwyr. Mae enwebiadau ar agor nawr, a gall unrhyw fyfyriwr ar ein campysau yng Nghaerdydd neu Abertawe gynnig eu hunain. Os oes gennych chi ddiddordeb, edrychwch ar y gofynion cymhwysedd a llenwch ein ffurflen enwebu ar-lein i ddod yn ymgeisydd erbyn dydd Mawrth, 6ed Mai.

Rydym yn cynnal etholiad arbennig i ddod o hyd i rywun i fod yn Llywydd Caerdydd ac Abertawe ar gyfer 2025/-2026.

Yn gynharach eleni, fe etholoch chi Pheobe yn Llywydd Caerdydd ac Abertawe. Fodd bynnag, mae hi wedi dewis peidio ag ymgymryd â’r rôl. 

Rydym yn parchu ei phenderfyniad ac yn dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol - fodd bynnag, mae hyn yn golygu ein bod yn cynnal etholiad arbennig - sef is-etholiad - i sicrhau bod gennym ni rywun yn y rôl a thîm llawn o Lywyddion ar gyfer 2025/26.

Mae enwebiadau ar agor nawr ac yn cau ddydd Mawrth, 6ed Mai. Mae'r pleidleisio'n agor am 10:00 ddydd Llun, 19eg Mai, ac yn cau am 15:00 ddydd Mawrth, 20fed Mai. Byddwn yn cyhoeddi'r enillydd ddydd Mercher, 21ain Mai.

Mae Llywydd Caerdydd ac Abertawe yn gweithio'n llawn-amser ac yn cael cyflog o £21,840 i wneud bywyd myfyrwyr yn y Drindod Dewi Sant mor dda ag y gall fod!

Gall unrhyw fyfyrwyr cyfredol neu fyfyrwyr sy'n graddio o gampws Caerdydd neu Abertawe PCyDDS enwebu eu hunain fel llywydd nesaf Caerdydd ac Abertawe, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion isod.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon, bydd angen i chi gyflwyno enwebiad trwy ein ffurflen erbyn dydd Mawrth, 6ed Mai, i fod â chyfle i gael eich ethol i'r rôl gan fyfyrwyr eraill.

Cyflwyno Enwebiad


Gofynion Cymhwysedd

Er mwyn gallu enwebu eich hun ar gyfer rôl Llywydd nesaf Caerdydd ac Abertawe, mae angen i chi fodloni'r pwyntiau canlynol;

  1. Rhaid bod gennych chi’r hawl i weithio yn y DU.
  2. Rhaid i chi fod yn byw yn y DU yn llawn-amser. 
  3. Rhaid i chi fod yn fyfyriwr cyfredol neu'n graddio ar gampws Caerdydd neu Abertawe PCyDDS.
  4. Os na fydd eich cwrs yn gorffen ym mis Mehefin 2025, mae'n rhaid i chi allu cymryd seibiant o astudio.
  5. Rhaid i chi fod ar gael o ddydd Gwener, 13eg Mehefin, ar gyfer Sefydlu Swyddogion llawn-amser.
  6. Rhaid i chi fyw ger eich campws cartref dewisol; ar hyn o bryd awgrymir y byddai eich wythnos waith nodweddiadol yn golygu tri diwrnod yn Abertawe a dau ddiwrnod yng Nghaerdydd.
  7. Rhaid i chi ddeall mai rôl gyflogedig, lawn-amser yw hon - ni allwch fod ag unrhyw swyddi eraill (dim gwaith rhan-amser nac unrhyw fath o astudio) 
  8. Rhaid i chi ddeall y byddwch yn dod yn un o'n hymddiriedolwyr os byddwch yn cael eich ethol - a rhaid i chi fodloni'r gofynion cyfreithiol.

Cwestiynau Cyffredin

Pam na allwn ni benodi'r sawl oedd yn yr ail safle?

Nid oes gennym y pŵer i benodi'r sawl a ddaeth yn ail yn yr etholiad oherwydd ein Memorandwm ac Erthyglau Cydgymdeithasu. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r hyn y gallwn a'r hyn na allwn ei wneud - ac o fewn y ddogfen, mae'n glir, os bydd swydd wag, y bydd is-etholiad yn cael ei alw.

Pam mae myfyrwyr o gampysau eraill yn cael pleidleisio dros Lywydd Caerdydd ac Abertawe?

Mae Undebau Myfyrwyr yn destun Deddf Addysg 1994, sy'n darparu ar gyfer 'Deiliaid Prif Swyddi’r Undeb' a bod y rhain i'w hethol gan bob myfyriwr. Mae Swyddogion Sabothol yn 'Ddeiliaid Prif Swyddi’r Undeb'. Os byddai llywydd un campws yn cael ei ethol gan eu campws yn unig; ni allent fod yn un o 'Ddeiliaid Prif Swyddi’r Undeb' sy'n golygu; dim cyflog, dim rôl ymddiriedolwr, a dim rôl a gydnabyddir yn swyddogol. Mae hyn yn golygu y gall pob myfyriwr bleidleisio dros bob un o Ddeiliaid Prif Swyddi’r Undeb. 

Dydw i ddim yn astudio ar Gampws Abertawe na Chaerdydd; pam ddylwn i falio am hyn? 

Peidiwch â gadael i'r teitl eich twyllo, mae'r swyddogion yn cynrychioli myfyrwyr ar bob mater. Er enghraifft, gallai hybiau bwyd ar bob campws fod yn flaenoriaeth i un o'r Swyddogion Sabothol. Mae Llywydd Campws Abertawe eleni wedi ymgyrchu dros gymorth ar gyfer Costau Byw i bob campws. Does dim ots pa gampws maen nhw arno, y ffocws mawr yw gwella profiad y myfyrwyr.

Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol, a allaf ymgeisio?

Mae croeso i fyfyrwyr rhyngwladol ymgeisio yn yr etholiad (ac fe’u hanogir i wneud hynny), fodd bynnag, bydd angen i chi ymestyn eich fisa er mwyn ymgymryd â'r rôl. Cysylltwch â'r Gofrestrfa Ryngwladol os oes gennych chi gwestiynau am hyn, gan nad ydym yn darparu cyngor ar fisâu. Rhaid i chi fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd - ni allwch ymgeisio yn yr etholiad os nad ydych yn bodloni'r holl ofynion gorfodol hyn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost atom yn elections@uwtsd.ac.uk.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...