Hysbysiad Enwebiadau: Is-Etholiad 2021

Dydd Llun 24-05-2021 - 11:34

Yn anffodus, ni all y sawl a etholwyd yn Llywydd Campws Abertawe ymgymryd â'r swydd; rydym yn dymuno'r gorau iddi.

Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod angen i Undeb y Myfyrwyr gynnal etholiad arall. Rydyn ni'n caru democratiaeth, ac rydyn ni'n siŵr eich bod chi hefyd!

Myfyrwyr sy’n arwain Undeb Myfyrwyr PCyDDS, ac os ydych chi'n gymwys, gallwch sefyll am rôl Llywydd Campws Abertawe. Gallwch bleidleisio dros bwy rydych chi'n meddwl sy'n iawn ar gyfer y rôl. Ac ar ôl popeth mae 2020 wedi’i daflu atom, mae'n bwysicach nag erioed bod myfyrwyr yn cael eu clywed!

Mae un rôl ar gael, sef Llywydd Campws Abertawe. Mae hon yn swydd lawn-amser, a fydd yn dechrau ar 21ain Mehefin 2021. Mae yna rai gofynion gorfodol i’w gweld ar ddiwedd yr hysbysiad hwn.

 

Dechrau'r Cyfnod Enwebu 10 am Dydd Mercher 26ain Mai 

I enwebu, mae angen i chi lenwi’r Ffurflen Microsoft yma ac uwchlwytho’r Datganiad Ymddiriedolwr, y gellir ei lawrlwytho yma; mae enwebiadau ar agor o 26ain Mai tan 2il Mehefin 2021.

 

Dechrau'r Cyfnod Enwebu

26ain Mai, 10 am

Diwedd y Cyfnod Enwebu

2il Mehefin, 10 am

Briffio’r Ymgeiswyr:

2il Mehefin 6 pm

Dyddiad cau ar gyfer Maniffestos

3ydd Mehefin, 10 am

Dechrau'r Cyfnod Pleidleisio

9fed Mehefin, 10 am

Diwedd y Cyfnod Pleidleisio

11eg Mehefin 3 pm

Canlyniadau

11eg Mehefin 6 pm

 

Beth yw Maniffesto?

Mae maniffesto yn ddatganiad sy'n dweud wrth bleidleiswyr pwy ydych chi a beth rydych chi am ei gyflawni. Mae'n fyr ac yn gryno, ac mae’n gadael i bleidleiswyr wybod mwy amdanoch chi. Cyfyngir maniffestos i 200 gair.

Dylid e-bostio Maniffestos Ymgeiswyr at election@uwtsd.ac.uk erbyn 10:00 Mehefin 3ydd. Ni allwn dderbyn maniffestos sy’n ein cyrraedd yn hwyr.

Cyngor ar Ysgrifennu Maniffesto

 

Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr

Yn anffodus, nid ydym yn gallu llunio cwestiynau ar gyfer yr ymgeiswyr yn yr amser prin sydd ar gael, ond gallwch gysylltu â’r ymgeiswyr i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi! Mae'n debygol y byddwch yn gallu dod o hyd iddynt ar wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod pleidleisio.

 

Y Rôl sydd ar gael

 

Swyddog Sabothol - Llywydd Campws Abertawe

 

Gyda’i gilydd, mae’r tîm Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr yn wleidyddol o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad gwleidyddol i staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr.

Gofynion gorfodol ar gyfer rôl Llywydd Campws Abertawe. Rhaid i chi fod:

  • yn y DU i ddechrau gwaith llawn-amser ar 21ain Mehefin 2021 

  • yn gymwys i weithio yn y DU 

  • yn fyfyriwr cofrestredig yn PCyDDS ar hyn o bryd. 

  • yn fyfyriwr sydd â’i raglen astudio wedi'i lleoli ar safle Abertawe PCyDDS

  • yn gymwys i fod yn ymddiriedolwr elusen a chyfarwyddwr cwmni

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae croeso i chi sefyll yn yr etholiad, a byddem yn eich annog i wneud hynny; fodd bynnag bydd angen i chi ymestyn eich fisa er mwyn ymgymryd â'r rôl. Cysylltwch â'r Gofrestrfa Ryngwladol os oes gennych chi gwestiynau am hyn, gan nad yw Undeb y Myfyrwyr yn darparu cyngor ar fisa.

Mae'n ofynnol i chi fodloni'r holl feini prawf uchod; os yn anffodus nad ydych chi'n ateb yr holl ofynion gorfodol hyn, nid ydych chi'n gymwys i sefyll yn yr etholiad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr Etholiad, cysylltwch â’r Tîm Etholiadau ar Election@uwtsd.ac.uk

 

 

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...