Mae maniffesto yn ddatganiad sy'n dweud wrth bleidleiswyr pwy ydych chi a beth rydych chi am ei gyflawni. Mae'n fyr ac yn gryno, ac mae’n gadael i bleidleiswyr wybod mwy amdanoch chi.
Efallai bod ysgrifennu'ch maniffesto yn ymddangos yn frawychus, ond peidiwch â phoeni, mae gennym ychydig o bwyntiau i'ch helpu i ddechrau. Dechreuwch gyda drafft bras, a dywedwch wrth bobl;
• Dywedwch wrth bleidleiswyr beth yw eich amcanion, a chofiwch eich bod yn atebol i gorff y myfyrwyr.
• Byddwch yn gryno a defnyddiwch iaith glir. Peidiwch â defnyddio geiriau hir neu gymhleth.
• Mae eich maniffesto yn ymwneud â chi, nid y bobl rydych chi'n sefyll yn eu herbyn.
• Gwnewch y maniffesto’n berthnasol i’r rôl rydych chi'n sefyll amdani. Dangoswch i'r pleidleiswyr eich bod chi'n arweinydd gwych, eich bod chi'n angerddol ac mai chi yw'r person gorau ar gyfer
• Meddyliwch am fod yn greadigol ac yn ysbrydoledig; beth ydych chi'n mynd i'w wneud i wella profiad y myfyriwr?
• Gwnewch eich maniffesto’n bersonol, yn wir, yn realistig, ac yn hawdd ei ddarllen.
• Defnyddiwch eiriau fel “credu” ac “eisiau”
• Ceisiwch ddod o hyd i gydbwysedd rhwng yr hyn sydd o fewn cyrraedd a’r hyn sy’n apelgar.
Unwaith y byddwch chi wedi ysgrifennu drafft bras, darllenwch drwyddo, darllenwch drwyddo eto, gofynnwch i ffrind beth yw eu barn nhw, ac ewch ati i olygu’r testun.
Os nad yw eich sillafu a’ch gramadeg yn wych, ystyriwch ddefnyddio offer am ddim fel Grammarly a'r Hemingway Editor.
Os ydych chi'n cael trafferth wrth geisio rhoi eich geiriau ar bapur, dyma strwythur sylfaenol y gallwch chi ei ddefnyddio i ddechrau, ond mae croeso i chi ysgrifennu'ch maniffesto fel y gwelwch yn dda.
• Helo, fy enw i yw…
• Rwy'n sefyll ar gyfer rôl...
• Rwy'n sefyll oherwydd ...
• Mae gen i’r profiadau hyn y gallwn eu defnyddio er budd myfyrwyr...
• Rwyf wedi bod yn ymwneud â'r undeb o'r blaen trwy…
• Os caf fy ethol byddaf yn ymgyrchu ar y pethau canlynol...
• Mae'r mater hwn yn bwysig oherwydd...
• Byddaf yn cyflawni'r amcanion hyn trwy...
• Datganiad i Gloi: Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cofio mynd allan i bleidleisio ... Fy enw i ydy... a dwi'n sefyll ar gyfer rôl...
• Ystyriwch ychwanegu eich manylion cyswllt yma, rhag ofn bod gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau eraill i chi.
Cofiwch gadw'ch maniffesto o fewn y terfyn geiriau. Ni ddylai'r maniffesto fod yn fwy na 200 o eiriau.