Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) yn gyfarfod pwysig unwaith y flwyddyn ac mae croeso i bob myfyriwr ei fynychu. Dyma beth fydd yn digwydd:

  • Byddwn yn cyflwyno adolygiad o'r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
  • Bydd gennych chi gyfle i adolygu a phleidleisio ar syniadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr (a elwir yn Gynigion). 
  • Cewch bleidleisio ar ein Hymaelodaethau
  • Cewch adolygu ein Cyllideb.

Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf yn cael ei gynnal ar 29ain Tachwedd 2023, am 3pm. Fe'i cynhelir ar Teams

Cynigion

Syniad a gyflwynir gan fyfyriwr yw Cynnig  sy'n cael ei gyflwyno a'i drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am gyfle i ddod yn bolisi’r Undeb. . I gyflwyno syniad, mae angen i chi lenwi'r ffurflen templed ar gyfer Cynnig. Unwaith y byddwch wedi gwneud hynny, anfonwch eich ffurflen i studentvoice@uwtsd.ac.uk. Mae angen cyflwyno cynigion cyn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol erbyn dyddiad cau ar gyfer Cynigion.

Lawrlwythwch y Templed ar gyfer Cynnig

Pleidleisio ar Gynnig

Unwaith y bydd Cynnig wedi cael ei gyflwyno yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gall myfyrwyr bleidleisio drosto neu yn ei erbyn, neu ymatal rhag pleidleisio.

Cynigion Gweithdrefnol 

Mae Cynigion Gweithdrefnol yn gamau gweithredu y gall myfyrwyr eu cyflwyno, ac yna bydd y rhai sy’n bresennol yn pleidleisio arnynt. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr symud y cyfarfod ymlaen neu alw am gadeirydd newydd er enghraifft. Gellir gweld manylion am hyn yn ein his-ddeddfau, and a student can propose a Procedural Motion, but it must be seconded by another student and then voted on before it can happen.

Cynnig Gweithdrefnol 

Beth mae hyn yn ei olygu? 

Cynnig o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd ar gyfer gweddill y cyfarfod 

Os caiff y cynnig gweithdrefnol hwn ei basio, bydd yr Is-Gadeirydd yn cymryd drosodd y dyletswyddau cadeirio. Os nad oes Is-Gadeirydd ar gael, bydd hyn yn trosglwyddo i Swyddog Sabothol.  

Herio dyfarniad y Cadeirydd 

Os caiff y cynnig gweithdrefnol hwn ei basio, cynhelir pleidlais ar benderfyniad y Cadeirydd.
Gellir defnyddio’r cynnig gweithdrefnol hwn pan fydd y Cadeirydd yn gwneud dyfarniad, neu benderfyniad ynghylch rheol, yn cam-ddehongli rheol, neu’n gwneud dyfarniad y tu allan i gwmpas y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Y dylid trafod y cynnig fesul rhannau 

Os bydd y cynnig gweithdrefnol hwn yn cael ei basio, yna caiff y cynnig sy’n cael ei drafod ei dorri i lawr yn rhannau gan y Cadeirydd a phleidleisir ar y rhannu hynny ar wahân. Dim ond ar gyfer cynigion penodol y mae hyn yn bosibl, oherwydd os na ellir torri’r cynnig i lawr ni ellir pleidleisio arno fesul rhannau.  

Y dylid pleidleisio ar y mater 

Os bydd y cynnig gweithdrefnol hwn yn cael ei basio, yna bydd y drafodaeth yn dod i ben ac yn mynd yn syth i bleidlais.  

Y dylid ailgyfri'r bleidlais 

Os bydd y cynnig gweithdrefnol hwn yn cael ei basio, bydd y bleidlais yn cael ei chynnal eto a'i hailgyfrif.  

Y dylid newid trefn y busnes 

Os bydd y cynnig gweithdrefnol hwn yn cael ei basio, bydd y cyfarfod yn symud i’r eitem nesaf ar yr agenda; bydd pob trafodaeth yn dod i ben, ac ni fydd pleidlais ar y mater (os yn berthnasol)  

Ymaelodaethau

Ymaelodaeth yw cysylltiad swyddogol a phartneriaeth rhwng sefydliadau. Ar hyn o bryd rydym yn gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) a Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Yn y CCB bydd cyfle i chi bleidleisio ar ein hymaelodaethau.

Cyllidebau

Yn y CCB bydd gennych y cyfle i fwrw golwg ar ein cyfrifon cyllidol.

CCB

Dyma ble bydd eich swyddogion etholedig yn cyflwyno eu hadroddiad blynyddol sy'n cynnwys holl weithgareddau UMyDDS gydol y flwyddyn. Bydd cyfle i chi adolygu ein gweithgareddau, holi'r swyddogion yn uniongyrchol a rhannu'ch syniadau o ran sut gallwn ni eu gwella. Byddwn ni'n cyflwyno'n cyfrifon ariannol blynyddol ac yn rhoi cyfle i chi gymeradwyo’r mudiadau hynny rydym yn ymgysylltu â nhw. Byddwn ni'n rhannu ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, rhoi gwybod i chi am ddyddiadau allweddol, a gofyn i chi am eich syniadau.

 

Dyddiad Cyngor Adnoddau Hygyrch

15 Tachwedd 2018

CCB

Cofnodion

26 Mai 2022 CCB

Cofnodion

25 Mai 2023 CCG Cofnodion