Adroddiad ar Ansawdd Academaidd 1

Rydym yn falch o gyflwyno Adroddiad cyntaf Undeb y Myfyrwyr ar Ansawdd Academaidd; eleni byddwn yn canolbwyntio ar faes sy’n agos at galon y mwyafrif helaeth o fyfyrwyr, sef y costau ariannol sy’n gysylltiedig ag astudio.

Rydym yn gwybod bod mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn gweithio i gynnal eu hastudiaethau, a bod ein cenhedlaeth ni o fyfyrwyr yn gwario mwy ar rent, bwyd a theithio na’r genhedlaeth o’r blaen – yn arbennig mewn sefyllfa lle nad yw grantiau a benthyciadau’n cwrdd â’n holl gostau.

Yn y cyd-destun hwn, rydym yn falch iawn o gyflwyno’r darn hwn o waith i Senedd y Brifysgol, a gofynnwn i’r Brifysgol roi ystyriaeth fanwl i’n canfyddiadau. Credwn, yn y bôn, y dylai myfyrwyr ddechrau yn y Brifysgol mewn sefyllfa o fod yn gwbl hysbys ynglŷn â’r costau fydd yn eu hwynebu yn ystod eu hastudiaethau; hefyd hoffem weld y Brifysgol yn ceisio lleihau’r costau i’r myfyrwyr hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y costau ychwanegol hyn.

Darllenwch Yr Adroddiad