Carmarthen Campus President

Lowri Wilson

Carmarthen Campus President

Lowri yw Llywydd Campws Caerfyrddin ar gyfer 2023-24. Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Lowri wedi’i lleoli ar ein campws yng Nghaerfyrddin. 

mwy am y rôl

Your Students' Union has four Sabbatical Officer positions, these are full-time and paid. The roles are for a Group President (one over-arching role covering all campuses), and a Campus President position for Swansea, Lampeter and Carmarthen.

Together, the team of Sabbatical Officers leads the Students’ Union on a daily basis, providing direction to the Union’s staff team and making sure that the work of the organisation is relevant to the experience of our students. Sabbatical Officers are considered to be the primary student representatives by the University and provide student ideas, issues and opinions on a variety of topics by participating in project, partnership and committee work within the University.

Sabbatical Officers set the agenda in terms of new ideas and activities for the Students’ Union to try, and work hard to make sure that all students know what their Union is for, and how they can get in touch. Sabbatical Officers automatically serve as trustees of the Students’ Union, and any candidates should read the Student Trustees section to make sure they are eligible.

Cyfrifoldebau Llywyddion

Mae llawer o wahanol gyfrifoldebau yn dod gyda rôl y Llywydd; dyma rai enghreifftiau:

  • Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
  • Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
  • Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr parthed materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.

I dreiddio'n ddyfnach i gyfrifoldebau ein llywyddion, beth am edrych ar ein tudalen Swyddogion Sabothol

Am Lowri

Helo bawb, fy enw i yw Lowri Wilson a fi yw eich Llywydd Caerfyrddin. Rwy'n angerddol iawn am wneud newidiadau cadarnhaol i wella profiad myfyrwyr ar y campws. 

Rwy'n gwybod drosof fy hun y gallai fod mwy o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr, a dyna un o'r rhesymau pam y cynigais fy hun ar gyfer y rôl.   

Rwy'n credu y dylai pawb gael yr un cyfleoedd wrth astudio tuag at eu gradd, ac rwy’n awyddus i wthio am lwyddiant pellach er mwyn sicrhau deilliannau gwell i'r rhai sy'n cael trafferthion academaidd a'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol. 

Rwy'n bwriadu gwneud y campws yn fwy hygyrch i bawb, a cheisio dod â phawb at ei gilydd i wneud y campws yn fwy hwyliog, pleserus, cynaliadwy ac yn haws symud o gwmpas. 

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd yn ystod yr wythnos groeso. Dewch i ddweud helo, ac yn y cyfamser, Cadwch y Ffydd! 

Maniffesto’n dod yn fuan