Myfyrwyr sydd wedi’u hethol i gynrychioli UM PCyDDS sy’n mynychu’r gwahanol gynadleddau UCM ar ein rhan. Y rhain yw cynadleddau UCM y DU, UCM Cymru a Rhyddhad UCM. Yn y cynadleddau hyn, mae cynrychiolwyr yn ethol arweinyddiaeth UCM, yn trafod ac yn pleidleisio ar waith yr Undeb Cenedlaethol ac yn dysgu mwy am sut i gydweithio i wella profiad myfyrwyr.