Group President

Taya Gibbons

Group President

Taya yw Llywydd y Grŵp ar gyfer 2023-24. Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Taya’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser ar gampws Caerfyrddin, ac mae’n teithio ar draws safleoedd eraill PCyDDS.

mwy am y rôl

Your Students' Union has four Sabbatical Officer positions, these are full-time and paid. The roles are for a Group President (one over-arching role covering all campuses), and a Campus President position for Swansea, Lampeter and Carmarthen.

Together, the team of Sabbatical Officers leads the Students’ Union on a daily basis, providing direction to the Union’s staff team and making sure that the work of the organisation is relevant to the experience of our students. Sabbatical Officers are considered to be the primary student representatives by the University and provide student ideas, issues and opinions on a variety of topics by participating in project, partnership and committee work within the University.

Sabbatical Officers set the agenda in terms of new ideas and activities for the Students’ Union to try, and work hard to make sure that all students know what their Union is for, and how they can get in touch. Sabbatical Officers automatically serve as trustees of the Students’ Union, and any candidates should read the Student Trustees section to make sure they are eligible.

Cyfrifoldebau Llywyddion

Mae llawer o wahanol gyfrifoldebau yn dod gyda rôl y Llywydd; dyma rai enghreifftiau:

  • Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
  • Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
  • Cynrychioli myfyrwyr ar gampysau Birmingham, Llundain a Chaerdydd a datblygu system o gynrychiolaeth ar y campysau hynny sy'n gweithio dros anghenion y myfyrwyr.
  • Cynnal cysylltiad â chynrychiolwyr yn y colegau sy'n bartneriaid i UMYDDS, a lle nad oes cynrychiolwyr, gweithio gyda swyddogion cydlynu myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr ar gyrsiau PCYDDS yn cael eu cynrychioli'n effeithiol.

I dreiddio'n ddyfnach i gyfrifoldebau ein llywyddion, beth am edrych ar ein tudalen Swyddogion Sabothol

Am Taya

Helo, Taya ydw i - efallai eich bod yn fy adnabod ers y llynedd; fi oedd Llywydd Campws Caerfyrddin, ac eleni rwy'n eich cynrychioli fel Llywydd y Grŵp.  

Rwy'n 23, y swyddog sabothol o'r brifddinas, Caerdydd. Tyfais i fyny'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac rwy’n angerddol am y campau; rwy’n chwarae pêl-rwyd, rygbi, rygbi cyffwrdd ac roeddwn yn ddigon ffodus rhwng 16 a 18 oed i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop. Arweiniodd byd chwaraeon at fy mhenderfyniad i ymgymryd â chwrs gradd, gan ddewis aros yng Nghymru i astudio Therapi Chwaraeon ar Gampws Caerfyrddin.  

Fy hoff anifail yw’r Jiráff, dwi'n meddwl bod hynny oherwydd mai dim ond 5'3 ydw i, ac fe hoffwn fod yn dal iawn a byw mewn gwlad boeth. 

Mae gennyf ADHD felly gallaf uniaethu â llawer ohonoch sy'n astudio yma, ac mae'n ymddangos mai un o'm cymhellion ar hyn o bryd yw fy mod wedi dechrau'r rôl hon y llynedd gyda 12 tatŵ ac ar hyn o bryd mae gen i 38 ac mae mwy i ddod. Efallai fod hyn yn dipyn o obsesiwn, ond mae'n fy nghadw i'n hapus!! 

Fy rhif lwcus yw 13 a chefais fy nhrwydded yrru ar ddydd Gwener 13eg; mae'n ymddangos i mi drechu'r diwrnod hynod anlwcus hwnnw!!

Maniffesto’n dod yn fuan