Swansea Campus President

Natalie Beard

Swansea Campus President

Natalie yw Llywydd Campws Caerfyrddin ar gyfer 2023-24. Caiff ein Llywyddion i gyd eu hethol gan fyfyrwyr; maen nhw’n arwain ein gwaith (o brosiectau ac ymgyrchoedd i weithgareddau a digwyddiadau), ac maen nhw’n cynrychioli myfyriwr i’r Brifysgol. Mae Natalie wedi’i lleoli ar ein campws yn Abertawe. 

mwy am y rôl

Your Students' Union has four Sabbatical Officer positions, these are full-time and paid. The roles are for a Group President (one over-arching role covering all campuses), and a Campus President position for Swansea, Lampeter and Carmarthen.

Together, the team of Sabbatical Officers leads the Students’ Union on a daily basis, providing direction to the Union’s staff team and making sure that the work of the organisation is relevant to the experience of our students. Sabbatical Officers are considered to be the primary student representatives by the University and provide student ideas, issues and opinions on a variety of topics by participating in project, partnership and committee work within the University.

Sabbatical Officers set the agenda in terms of new ideas and activities for the Students’ Union to try, and work hard to make sure that all students know what their Union is for, and how they can get in touch. Sabbatical Officers automatically serve as trustees of the Students’ Union, and any candidates should read the Student Trustees section to make sure they are eligible.

Cyfrifoldebau Llywyddion

Mae llawer o wahanol gyfrifoldebau yn dod gyda rôl y Llywydd; dyma rai enghreifftiau:

  • Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
  • Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
  • Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr parthed materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.

I dreiddio'n ddyfnach i gyfrifoldebau ein llywyddion, beth am edrych ar ein tudalen Swyddogion Sabothol

Am Natalie

Helo, Natalie ydw i!  

Astudiais Reoli Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol ar gyfer fy ngradd israddedig, ac yna cwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes, y naill a’r llall yma yn PCyDDS.  

Ar ôl cwblhau’r ddwy radd, doeddwn i ddim eisiau gadael gan fy mod yn caru Abertawe a bod yn rhan o gymuned PCyDDS. 

Gan fy mod wedi bod yn gynrychiolydd cwrs o'r blaen ac yn cael y profiad yn un gwerth-chweil, meddyliais pa ffordd well o gefnogi myfyrwyr eraill nag ymgyrchu i fod yn Llywydd Campws! Rwyf wedi wynebu fy siâr o anawsterau wrth astudio, ac oherwydd hyn, fy mhrif flaenoriaeth yw llesiant myfyrwyr a gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael pob cefnogaeth ar hyd eu taith drwy’r brifysgol yn yr un ffordd ag y cefais i. 

Yn fy amser hamdden, rwy'n hoffi yfed coffi ger y traeth gyda ffrindiau, chwarae gemau cyfrifiadurol a gwylio fy hoff sioeau teledu, weithiau cyfresi cyfan ar y tro. Cyn mynd i’r brifysgol bûm yn trefnu digwyddiadau am dros ddegawd, gan weithio ar lwyfannau digwyddiadau a gwyliau cerddoriaeth gan gynnwys hyb gwylwyr Tour de France, digwyddiad chwaraeon awyr agored Cliffhanger a gŵyl gerddoriaeth Tramlines.  

Roeddwn yn fyfyriwr hŷn pan ddechreuais yma yn PCyDDS, a chyn hynny astudiais ar gyfer Diploma Cenedlaethol yn y Cyfryngau: Moving Image, er bod hynny dros 10 mlynedd yn ôl, felly dwi ddim yn siŵr pa mor dda fydd fy neunydd fideo nawr, ond rydw i wedi sefydlu cyfrif Tik Tok beth bynnag i roi cynnig arni! Rwy'n dod o Sheffield yn wreiddiol, ond gan fy mod wedi byw yn Abertawe ers 5 mlynedd bellach, hoffwn feddwl fy mod wedi colli rhywfaint o fy acen Swydd Efrog ac wedi codi rhywfaint o dafodiaith Abertawe, ond fe adawaf i chi benderfynu ar hynny ! Dwi'n dysgu Cymraeg ar Duolingo ar hyn o bryd, ond dim ond yn gwybod ychydig o ymadroddion hyd yn hyn.  

Maniffesto’n dod yn fuan