Yn Barod Am Yr Hyn Ddaw Ar Ôl Y Brifysgol?

Dydd Gwener 05-12-2025 - 11:48

Wyddech chi fod ISE (Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr) yn dweud fod cyflogwyr ar gyfartaledd wedi derbyn 140 o geisiadau ar gyfer pob swydd i raddedigion yn 2024?

Dyna pam mae’r Wythnos Sgiliau’n ôl, ac yn fwy nag erioed o’r blaen – i’ch helpu i sefyll allan o’r dorf a’ch helpu i adeiladu’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
 
Ymunwch â ni yng Nghaerdydd o’r 5ed i’r 10fed Ionawr am fwy nag 20 o ddigwyddiadau, i gyd â’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer cyflogaeth, o bethau sylfaenol fel CV, Cyfweliadau a Siarad Cyhoeddus, i sesiynau arbenigol gyda siaradwyr gwadd.

Mae hon yn wythnos na fyddwch chi am ei methu – archebwch eich lle, buddsoddwch ynoch chi eich hun a symudwch gam yn nes at eich swydd ddelfrydol!

Gweithdai’r Wythnos Sgiliau

Dydd Llun 5 Ionawr

  • Rhwydweithio: Diwydiannau Creadigol
  • Adeiladu eich CV
  • Adeiladu eich CV perfformiwr
  • Cyflwyniad Cyntaf – Sesiwn Hyder a Chymhelliant gyda Stifyn Parri.
  • Ar-Lein - Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder

Dydd Mawrth 6 Ionawr

  • Hanfodion Cyfweliad am Swydd
  • Paratoi'r Perfformiwr gyda Caitlin Lavagna ac Eve Tudball
  • Ar-lein - Adeiladu eich Proffil ar gyfer LinkedIn

Dydd Mercher 7 Ionawr

  • Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder
  • Tynnu Lluniau Proffesiynol
  • Cyfansoddi a Chynhyrchu Caneuon gyda Michael Bush

Dydd Iau 8 Ionawr

  • Panel Gyrfaoedd Creadigol
  • Cyllid ar gyfer Hunangyflogaeth gyda Chyfrifwyr HSJ
  • Cyfansoddi a Chynhyrchu Caneuon gyda Michael Bush

Dydd Gwener 9 Ionawr

  • Turning the Wheel: Cefndir y Sioe Gerdd gyda Kieran Bailey
  • Archwilio cyfleoedd: Camp Counselors USA
  • Ar-lein - Adeiladu eich CV

Dydd Sadwrn 10 Ionawr

  • Ar-Lein - Hanfodion Cyfweliad am Swydd
  • Ar-Lein - Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder
  • Ar-lein - Adeiladu eich Proffil ar gyfer LinkedIn
  • Ar-lein - Adeiladu eich CV

 

Wythnos Sgiliau - Caerdydd

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...