Wythnos Sgiliau Birmingham Mehefin – Nodwch y Dyddiad

Dydd Llun 26-05-2025 - 10:29
Skills week blog thumbnail

Gwnewch nodyn yn eich calendrau – mae Wythnos Sgiliau Birmingham yn dod yn ôl i'r campws!

Byddwn yn cynnal wythnos lawn dop o sesiynau a gweithdai wedi'u teilwra i'ch helpu i wella a dysgu sgiliau a fydd o gymorth i chi trwy'r brifysgol a thu hwnt, yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.

O ddydd Llun 16eg i ddydd Sul 22ain Mehefin, gallwch fynychu sesiynau sy'n llawn cyfleoedd i'ch helpu i ehangu, datblygu a dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gallwch ofyn cwestiynau, clywed gan broffesiynwyr a siarad â myfyrwyr eraill am eich profiadau. Rydym yn gyffrous i fod yn cydweithio â'r tîm gyrfaoedd, tîm y llyfrgell a thîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr i ddod â hyd yn oed mwy o arbenigedd i chi yn rhai o’r sesiynau.

Ac un o'r pethau gorau am hyn i gyd? Mae’r Wythnos Sgiliau am ddim!  

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu eich lle ar gyfer y sesiynau yr ydych am eu mynychu. Gallwch fynychu cymaint o sesiynau ag y dymunwch – boed hynny’n un neu bob un ohonynt.

Dyma'r sesiynau y gallwch chi eu mynychu:

  • Siarad Cyhoeddus: Datgloi Hyder – dydd Llun 16eg Mehefin am 13:00
  • Paratoi ar gyfer Ffair Swyddi gyda'r Tîm Gyrfaoedd – dydd Mawrth 17eg Mehefin am 13:00
  • Hanfodion Cyfweliad am Swydd (sesiwn ar-lein) – dydd Mawrth 17eg Mehefin am 18:30
  • Trosolwg o Reoli Amser gyda Thîm y Llyfrgell – dydd Mercher 18fed Mehefin am 13:00
  • Adeiladu eich CV (sesiwn ar-lein) – dydd Mercher 18fed Mehefin am 18:30
  • Sut i Osgoi Sgamiau Myfyrwyr gyda Thîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr dydd Iau 19eg Mehefin am 13:15
  • Cynllunio Gyrfa (sesiwn ar-lein) – dydd Sadwrn 21ain Mehefin am 13:00
  • Rheoli Amser a Chynhyrchiant – dydd Sul 22ain Mehefin am 13:00

Wythnos Sgiliau

 

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...