Wythnos Sgiliau Birmingham Hydref – Nodwch y Dyddiad

Dydd Gwener 03-10-2025 - 15:56
Skills week thumbnail

Gwnewch nodyn yn eich calendrau – mae Wythnos Sgiliau Birmingham yn dod yn ôl i'r campws!

Byddwn yn cynnal wythnos lawn dop o sesiynau a gweithdai wedi'u teilwra i'ch helpu i wella a dysgu sgiliau a fydd o gymorth i chi trwy'r brifysgol a thu hwnt, yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.

O ddydd Llun 13eg i ddydd Sul 19eg Hydref, gallwch fynychu sesiynau sy'n llawn cyfleoedd i'ch helpu i ehangu, datblygu a dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd. Gallwch ofyn cwestiynau, clywed gan broffesiynwyr a siarad â myfyrwyr eraill am eich profiadau. Rydym yn gyffrous i fod yn cydweithio â'r tîm gyrfaoedd, tîm y llyfrgell a thîm Cynghori Undeb y Myfyrwyr i ddod â hyd yn oed mwy o arbenigedd i chi yn rhai o’r sesiynau.

Ac un o'r pethau gorau am hyn i gyd? Mae’r Wythnos Sgiliau am ddim!  

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu eich lle ar gyfer y sesiynau yr ydych am eu mynychu. Gallwch fynychu cymaint o sesiynau ag y dymunwch – boed hynny’n un neu bob un ohonynt.

Dyma'r sesiynau y gallwch chi eu mynychu:

  • Cinio rhwydweithio – Dudd Llun 13 Hydref am 12:00
  • LinkedIn Headshots – Dydd Mawrth 14 Hydref am 10:00
  • Sut i osgoi sgamiau myfyrwyr – Dydd Mawrth 14 Hydref am 13:30 
  • LinkedIn Headshots – Dydd Mercher 15 Hydref am 10:00
  • Ymddygiad proffesiynol – Dydd Mercher 15 Hydref am 13:30
  • Adeiladu eich CV– Dydd Iau 19 Hydref am 13:15
  • Adeiladu eich Proffil ar LinkedIn – Nos Iau 17 Hydref am 18:30
  • Rheoli Amser – Dydd Gwener 18 Hydref am 13:30
  • Arweinyddiaeth a Gwaith Tîm - Dydd Sadwrn 18 Hydref am 13:30
  • iarad Cyhoeddus: datgloi hyder - Dydd Sul 19 Hydref am 13:30

Skills Week

 

Categorïau:

Departments

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...