Dydd Llun 16-06-2025 - 09:00
Llundain, paratowch! Mae Wythnos Sgiliau’n dod yn ôl gyda rhestr cynnwys ffres a mwy o siaradwyr gwadd nag erioed o'r blaen!
Dydd Llun 14eg Gorffennaf i ddydd Sadwrn 19eg Gorffennaf
Rydym wedi cynllunio rhestr gyffrous o ddigwyddiadau, o sesiynau ar gyllidebu i sut i ddefnyddio AI mewn ffyrdd newydd a chyffrous.
Fyddwch chi ddim am fethu’r sesiynau hyn; gyda chyngor ymarferol, tiwtorialau a barn arbenigwyr, dyma’r cyfle perffaith i ddysgu neu wella’r sgiliau y byddwch chi’n gallu eu defnyddio yn y brifysgol ac yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
Wythnos Sgiliau
- Hanfodion Seiberddiogelwch: Sut i gadw’n ddiogel ar-lein
- Cynllunio Gyrfa (Ar-lein)
- Adeiladu eich CV (sesiynau 1-i-1)
- Rheoli Amser a Chynhyrchiant (Ar-lein)
- Entrepreneuriaeth 101
- Hanfodion Cyfweliad am Swydd (sesiynau 1-i-1)
- Cyllidebu 101 gyda Barclays
- Tynnu Lluniau Proffesiynol ar gyfer LinkedIn
- Hanfodion LinkedIn i Fyfyrwyr (Ar-lein)
- Sut i ddefnyddio AI yn effeithiol
Tystebau Wythnos Sgiliau
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hyn – cewch glywed gan y rhai sydd wedi mynychu’r Wythnos Sgiliau yn y gorffennol:
- “Roeddwn i wrth fy modd â’r cyrsiau; roeddent yn hynod glir. Roeddent yn ddeinamig a chyfeillgar iawn”
- “Roedd yr esboniad yn gyflym, yn ymwneud â’r pwnc, a chefais ateb i’m cwestiynau hefyd.”
- "Roeddwn i wrth fy modd â'r dull cyffrous y traddodwyd y cyflwyniad"
- "Roedd yn llawn gwybodaeth ynghylch y testun. Fe dderbyniais fy nhystysgrif yn syth wedyn."
- "Roeddwn i'n hoffi popeth, y ffordd yr esboniwyd pethau a'r holl wybodaeth angenrheidiol a roddwyd gan yr hyfforddwyr"
- “Fe wnes i fwynhau’r cyflwyniad a’r cyfoeth o wybodaeth a gefais yn ystod y sesiwn. Dysgais bethau newydd yr oeddwn yn gallu eu defnyddio yn ystod fy aseiniadau, sydd wedi bod o gryn help i mi.”
Sut i gymryd rhan
Mae pob un o’n sesiynau Wythnos Sgiliau am ddim, ond mae angen i chi archebu eich lle, trwy fynd i’r sesiwn rydych chi am ei mynychu ac archebu tocyn.
Gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag y dymunwch, boed yn un neu'r cyfan ohonynt.