Student Win! Extended access to Microsoft 365 for graduates.

Dydd Iau 15-04-2021 - 10:00

Buddugoliaeth i Fyfyrwyr! Mynediad estynedig i Microsoft 365 ar gyfer graddedigion. 

Gan: Tammy Bowie, Llywydd Campws Llambed 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi gweithio gyda'r Brifysgol i ymestyn eich mynediad i Office 365 ar ôl i chi raddio o 3 mis i flwyddyn!

Gall y flwyddyn gyntaf ar ôl graddio deimlo fel plymio, â’ch pen yn gyntaf, i mewn i bwll dwfn iawn! P'un a yw hynny’n chwilio am swydd yn eich dewis faes neu'n mynd ymlaen i addysg bellach, mae'n debygol y bydd angen i chi ddelio â ffurflenni cais, cyflwyniadau a chyfweliadau. Rydym am sicrhau eich bod yn cael yr offer sydd eu hangen arnoch.

Roedd yr hyn oedd ar gael yn wreiddiol yn caniatáu mynediad i chi i Microsoft 365 am 3 mis ar ôl i chi raddio; h.y. ar gyfer y cyfnod rhwng astudio israddedig ac astudiaeth ôl-raddedig o bosib (os oeddech chi am wneud gradd meistr).

Mae’r cyfnod hwn bellach wedi cynyddu bedair gwaith drosodd, gan roi mynediad i chi i raglenni allweddol fel Word a PowerPoint am flwyddyn gyfan! 

Ydych chi'n graddio’r haf hwn? Neu am gynllunio'ch camau nesaf?

Mae gan y Brifysgol hefyd nifer o wahanol adnoddau ar gael i bob myfyriwr a’r rhai sydd wedi graddio o PCyDDS ar eu platfform gyrfaoedd ar-lein (Mae'n cynnwys adnoddau ar gyfer hunanasesu, cynllunio gyrfa, llunio CV, cyfweliadau a llawer mwy. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw golwg ar Abintegro, platfform sy'n darparu llwyth o adnoddau, o gymorth gyda CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, hyd yn oed sesiynau ar hunan-ymwybyddiaeth a mwy.

Mae'r tîm Gyrfaoedd hefyd wrth law i'ch helpu gyda phob cam o'r broses hon trwy gynnig atebion i’ch ymholiadau a sesiynau 1-2-1 sy'n ymdrin â phopeth o gynllunio, dod o hyd i leoliadau gwaith a mireinio'ch CV. Gallwch weld ar yr hyn maen nhw'n ei gynnig yma.

Roeddwn i eisiau bachu ar y cyfle hwn i ddiolch i'r myfyriwr a gyflwynodd y syniad hwn trwy ein proses Syniadau Mawr; roedd yn syniad gwych, a doeddwn i ddim yn gallu aros i weithio arno, felly aethom ati’n syth!

Oes gennych chi syniad a fyddai o fudd i fyfyrwyr ar draws PCyDDS?

Os yw'r ateb yn gadarnhaol, edrychwch ar ein porth Syniadau Mawr, sef lle ar gyfer cyflwyno syniadau myfyrwyr a phleidleisio arnynt. 

Rydym hefyd yn diweddaru'r dudalen yn rheolaidd i roi gwybod i chi pa syniadau sydd wedi cael eu pasio gan eich Cynghorau neu sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd. 

BOTWM - Ewch i Syniadau Mawr 

Tammy.

Categorïau:

Student Wins

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...