📰 Cylchlythyr yr Undeb • Tymor 3 2023/24

Dydd Mercher 17-04-2024 - 13:22
Blog union newsletter

Croeso 'nôl! Gobeithio i chi fwynhau gwyliau'r Pasg. Cafwyd newyddion cyffrous y tymor diwethaf, ac mae cryn lawer o bethau’n digwydd y tymor hwn - dyma'r diweddaraf.

Diweddariadau Pwysig 📣

Dawnsfeydd yr Haf 

Mae Dawnsfeydd yr Haf yn ôl i'ch helpu i ddathlu diwedd y flwyddyn academaidd mewn steil. Byddwn yn rhyddhau manylion llawn a thocynnau ddydd Llun 22ain Ebrill - gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r dyddiad yn y cyfamser.

  • Llambed, nos Fawrth 14eg Mai
  • Abertawe, nos Sadwrn 18fed Mai
  • Caerfyrddin, nos Wener 24ain Mai
  • Caerdydd, nos Sadwrn 25ain Mai

Eich Llywyddion ar gyfer 2024/25

Fe wnaethoch chi bleidleisio drostynt, felly gadewch i ni gyflwyno eich tîm Llywyddion ar gyfer 2024/25 – mae Lowri a Natalie yn parhau yn eu rolau am flwyddyn arall, ac yn ymuno â nhw mae Maria a Rhobyn.

  • Maria Dinu yw Llywydd y Grŵp
    Lowri Wilson yw Llywydd Campws Caerfyrddin
    Rhobyn Grant yw Llywydd Campws Llambed 
    Natalie Beard yw Llywydd Campws Abertawe

Cymerwch Ran 🙌

Digwyddiadau Newydd gyda Rhowch Gynnig Arni

Arholiadau! Cyflwyno Gwaith! Asesiadau! - gadewch yr holl straen ar ôl, mwynhewch y cyfle i chwerthin, a gollyngwch ychydig o stêm yn un o'n digwyddiadau Rhowch Gynnig Arni’r tymor hwn. Dyma ragflas o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl!
 
Gwib-gartio, Ystafelloedd Dianc, Diwrnod yng Nghanolfan Wyddoniaeth Techniquest, Taith i Ddinbych-y-pysgod, Trampolinio mewn Ogof yn Bounce Below, Go Ape Battersea, Bingo Lingo.
 
Gallwch weld y rhestr lawn ar ein gwefan yn https://www.uwtsdunion.co.uk/cy/opportunities/give-it-a-go.

Celf a Chrefft y Gwanwyn

Ymunwch â ni am sesiwn galw-heibio celf a chrefft am ddim wedi’i hysbrydoli gan y gwanwyn, ddydd Llun 22ain Ebrill rhwng 11:00 - 13:00 yn y Cwad, Campws Caerfyrddin - https://www.uwtsdunion.co.uk/events/spring-crafts-aa71.

Bariau a Chlybiau

Bydd y cerddor Rhys Morgan yn perfformio mewn set ecsgliwsif yn yr Hen Far, Llambed am 20:00 nos Iau 25ain Ebrill. Gallwch weld yr holl fanylion yn https://www.uwtsdunion.co.uk/cy/events/live-music-night-with-rhys-morgan-old-bar.

Er gwybodaeth i chi 👏

Cynhyrchion Glanweithdra Am Ddim

Rydym yn falch o ddarparu cynhyrchion misglwyf ac atal cenhedlu am ddim i'n holl gampysau gyda'n hunedau Dewis a Dethol - https://www.uwtsdunion.co.uk/cy/articles/a-different-kind-of-pick-n-mix-free-sanitary-products-and-condoms

Wythnos Sgiliau Caerdydd

Mae Wythnos Sgiliau yn dod i Gaerdydd yn fuan - paratowch i ddatblygu eich sgiliau a gwella eich cyflogadwyedd gyda'n gweithdai a'n sesiynau am ddim - manylion llawn yn dod yn fuan.

Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr sy’n astudio Dramor

Fel eich Undeb Myfyrwyr, rydym yn chwilio am adborth ynghylch profiadau Myfyrwyr Rhyngwladol sy’n astudio yn y brifysgol hon yn y DU, yn ogystal â myfyrwyr sy’n mynychu’r brifysgol hon yn y DU sy’n astudio dramor, neu sy’n ymwybodol o gyfleoedd i astudio dramor, yn ystod eu taith academaidd yn PCyDDS. Rydym wedi creu arolwg byr i chi ei gwblhau: https://forms.office.com/e/TPy6Ucza2B.

Mis Iechyd Meddwl y Byd

Mae Mis Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei gynnal ym mis Mai eleni; byddwn yn rhannu adnoddau a chymorth trwy gydol y mis i godi ymwybyddiaeth.

Myfyriwr Ymddiriedolwr

Byddwn yn chwilio am ddau fyfyriwr i ymuno â'n Bwrdd Ymddiriedolwyr ar gyfer 2024/25 yn ddiweddarach y tymor hwn - mwy o wybodaeth yn dod yn fuan.

Pencampwyr BUCS

Dathlwch eich pencampwyr! Mae ein timau BUCS wedi cael cryn lwyddiant y tymor hwn - maen nhw’n mynd o nerth i nerth - https://www.uwtsdunion.co.uk/cy/articles/our-champions-of-bucs.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...