Mae symud i'r brifysgol yn brofiad cyffrous, ond gall deimlo ychydig yn llethol. Gall fod yn heriol dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas rhywle newydd, sut i gael mynediad at wasanaethau lleol, a darganfod beth sy'n digwydd ar y campws. I'ch helpu i ymgartrefu, rydym wedi llunio rhestr ddefnyddiol o wefannau lle gallwch ddarganfod popeth o wasanaethau hanfodol a mannau poblogaidd lleol, i wasanaethau myfyrwyr, a mwy. Ewch ati i ddechrau gwneud i'ch lleoliad newydd deimlo fel cartref!
Mae'r rhestr hon yn amlinellu rhai o'r pethau allweddol y gallech fod eisiau dod gyda chi i'r brifysgol - yn amlwg, gall hyn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n symud iddo, a'r hyn sy'n cael ei ddarparu (a'r hyn nad yw'n cael ei ddarparu) ar eich cyfer.
Wrth symud i rywle newydd, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod am eich gwasanaethau iechyd lleol a chofrestru gyda meddyg teulu lleol. Mae gan GIG Cymru a GIG Lloegr adnoddau ar-lein gwych i'ch helpu i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal; o ddeintyddion i feddygon teulu, fferyllfeydd i glinigau iechyd rhywiol, ysbytai a gofal cymdeithasol.
Cymru: www.111.wales.nhs.uk/localservices
Lloegr: www.nhs.uk/nhs-services/services-near-you
Cofiwch, gallwch gael condomau, cynhyrchion hylendid a misglwyf am ddim o’n canolfannau dewis a dethol ar y campws.
Rydyn ni wedi llunio rhestr o wefannau defnyddiol iawn i'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y lle, waeth sut rydych chi'n dewis teithio.
Cynlluniwr Teithiau Prifysgol (Cymru)
Gwybodaeth am drafnidiaeth gan Gyngor Dinas Birmingham
Gwybodaeth am drafnidiaeth gan Gyngor Caerdydd
Gwybodaeth am Drafnidiaeth - Ymweld â Bae Abertawe
Ar ôl wythnos o ddarlithoedd, mae'n amser ymlacio a gorffwys! Isod mae rhai lleoedd i siopa, cael tamaid o fwyd, a threulio amser gyda ffrindiau
Gallwch fwrw golwg ar Ymweld â Chaerdydd am restr o leoedd i siopa a bwyta, a phethau i'w gwneud yng Nghaerdydd.
Ein Hargymhelliad: Mae Heol y Frenhines yng Nghaerdydd yn llawn siopau unigryw a lleoedd i gael tamaid i'w fwyta yn ystod eich egwyl ginio neu i dreulio amser gyda'ch ffrindiau ar ddiwedd y dydd! Ac nid nepell o Heol y Frenhines mae Castell eiconig Caerdydd. Wedi'i leoli yng nghanol y ddinas, gallwch ymweld ag un o atyniadau treftadaeth mwyaf blaenllaw Cymru a safle o arwyddocâd rhyngwladol.
Mae Cyngor Caerfyrddin wedi llunio rhestr o bethau sydd angen i chi eu gwybod am fyw yng Nghaerfyrddin yma, gan gynnwys lleoedd i siopa, bwyta, a phethau i'w gwneud - https://www.darganfodsirgar.com/pethau-iw-gwneud/
Ein Hargymhelliad: Ymwelwch â thirnod lleol - mae Castell Caerfyrddin wedi’i leoli yng nghanol y dref! Mae llawer o siopau a chaffis hefyd yn yr ardal hon, sy'n eich galluogi i gael bwyd pan fyddwch chi’n ymweld â’r castell. Nid yw Canolfan Siopa Rhodfa Santes Catrin ymhell o Gastell Caerfyrddin chwaith. Gallwch wylio'r ffilmiau diweddaraf yn Vue Cinema, ac mae yna fwytai a siopau y gallwch ymweld â nhw hefyd.
Mae gan Fwrdd Twristiaeth Abertawe wefan lle gallwch chi ddod o hyd i leoedd i siopa, bwyta, a gweld beth sy'n digwydd o gwmpas Abertawe - www.croesobaeabertawe.com/pethau-iw-gwneud/
Ein Hargymhelliad: Mae Abertawe yn ddinas brysur gyda phrofiadau newydd yn llechu o amgylch pob cornel. Ewch am dro trwy ganol y ddinas a darganfyddwch Farchnad Abertawe - y farchnad dan-do fwyaf yng Nghymru! Gallwch ddod o hyd i lawer o fusnesau a bwytai lleol y tu mewn i’r Farchnad. Ac nid nepell o ganol y ddinas mae Traeth a Marina Abertawe, y lle perffaith i fynd am dro a mwynhau golygfa o'r Mwmbwls (lleoliad antur penwythnos gwych arall) o'r traeth.
Mae Bwrdd Twristiaeth Birmingham wedi llunio rhestr o leoedd i siopa, bwyta ac archwilio yn Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr - www.visitbirmingham.com
Ein Hargymhelliad: Mae'r Bullring a'r Grand Central yng nghanol dinas Birmingham. Yma gallwch ddod o hyd i lawer o siopau a bwytai i'w harchwilio a'u darganfod. A gerllaw campws Birmingham, gallwch ymweld â'r Ganolfan Genedlaethol eiconig Bywyd Môr, yn ogystal â Chanolfan Darganfod LEGOLAND a Siop LEGO! Lleoliadau perffaith i chi ymlacio a mwynhau eich hun gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Mae gan Fwrdd Twristiaeth Llundain wefan ble gallwch chi ddod o hyd i leoedd i siopa, bwyta, a gweld beth sy'n digwydd o gwmpas Dinas Llundain - www.visitlondon.com/things-to-do
Ein Hargymhelliad: Ger Campws Llundain mae Sgwâr Cabot yn Canary Wharf, lle gallwch ddod o hyd i lwyth o fwytai yn ogystal â siopau; mae yna hefyd drac Gwib-Gartio dan-do. Ac o amgylch y gornel o'r campws mae Promenâd Canary Wharf, lle byddwch chi'n dod ar draws bwytai wrth i chi gerdded i fyny ac i lawr Afon Tafwys gan fwynhau golygfeydd anhygoel o Ganol Llundain!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich gostyngiadau myfyrwyr trwy lawrlwytho apiau fel TOTUM, UniDays a Student Beans i weld beth sydd ar gael i chi!
Our offices and on-campus desks are open 09:00 - 17:00, Monday to Friday. Here are their addresses and locations on What Three Words.
Ydyn ni wedi methu rhywbeth; oes gennych chi gwestiwn neu awgrym? Rhowch wybod i ni yn union@uwtsd.ac.uk.