Myfyriwr Ymddiriedolwr
Amy ydw i, ac mae’n anrhydedd cael eistedd fel Myfyriwr Ymddiriedolwr penodedig ar fwrdd yr UM ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-2025.
Rwy’n ddysgwr o bell ôl-raddedig gyda PCyDDS, ar hyn o bryd yn gweithio ar fy nhraethawd hir Meistr ar gyfer y rhaglen Crefyddau Hynafol. Enillais radd yn y Clasuron o’r Brifysgol Agored yn 2021, ac rwy’n angerddol am fanteision a heriau dysgu o bell.
Rwy'n byw yng nghefn gwlad Swydd Rhydychen gyda fy ngŵr Phil. Gellir dod o hyd i mi’n aml yn cerdded y bryniau yn yr ardal hynafol a hardd hon, yn creu cerddoriaeth yn ein stiwdio recordio, neu'n ceisio gwaredu’r chwyn ar ein rhandir.