Helo bawb, fy enw i yw Lowri Wilson a fi yw eich Llywydd Caerfyrddin. Rwy'n angerddol iawn am wneud newidiadau cadarnhaol i wella profiad myfyrwyr ar y campws.
Rwy'n gwybod drosof fy hun y gallai fod mwy o gefnogaeth ar gael i fyfyrwyr, a dyna un o'r rhesymau pam y cynigais fy hun ar gyfer y rôl.
Rwy'n credu y dylai pawb gael yr un cyfleoedd wrth astudio tuag at eu gradd, ac rwy’n awyddus i wthio am lwyddiant pellach er mwyn sicrhau deilliannau gwell i'r rhai sy'n cael trafferthion academaidd a'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.
Rwy'n bwriadu gwneud y campws yn fwy hygyrch i bawb, a cheisio dod â phawb at ei gilydd i wneud y campws yn fwy hwyliog, pleserus, cynaliadwy ac yn haws symud o gwmpas.
Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chi i gyd yn ystod yr wythnos groeso. Dewch i ddweud helo, ac yn y cyfamser, Cadwch y Ffydd!