Mark Bleasdale

Ymddiriedolwr Allanol

Rwy'n rhedeg lleoliad cydweithio yn Llandeilo gyda fy ngwraig, ac o fewn yr adeilad hwnnw, rwyf hefyd yn therapydd tylino chwaraeon ac yn hyfforddwr ffitrwydd rhedeg.

Rwyf hefyd yn hyfforddi oedolion a phlant yn y clybiau criced a rhedeg lleol, yn ogystal â bod yn rhan weithredol o gymdeithas Gefeillio’r Dref. 

 Treuliais y 5 mlynedd olaf o fy ngwasanaeth gyda’r heddlu fel swyddog etholedig o Ffederasiwn yr Heddlu, ac felly treuliais yr amser hwnnw’n cynrychioli’r swyddogion cyffredin yn lleol a ledled Cymru.  

Rwyf wedi bod yn ymddiriedolwr allanol ar y Bwrdd ers 2019. Cefais fy nenu at y rôl ar ôl gweld yr hysbyseb yn lleol, a theimlais wrth i mi ddod at ddiwedd un yrfa a dechrau un newydd fod hwn yn gyfle i wneud rhywbeth yn wirfoddol o bosibl i helpu eraill, er bod fy ngwybodaeth o fywyd prifysgol yn perthyn i’r oes o’r blaen, gan i mi raddio o Brifysgol Birmingham yn 1989.

Mae fy amser fel ymddiriedolwr wedi rhoi boddhad mawr i mi, gan i mi fod yn rhan o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn goruchwylio’r gwaith o redeg yr Undeb, yn helpu gyda chyfweliadau i recriwtio ymddiriedolwyr eraill, yn cynghori ar faterion strwythurol a strategol i’r Bwrdd ac yn cadeirio rhai o’r pwyllgorau.