Taya Gibbons

Ymddiriedolwr Sabothol

Helo, Taya ydw i - efallai eich bod yn fy adnabod ers y llynedd; fi oedd Llywydd Campws Caerfyrddin, ac eleni rwy'n eich cynrychioli fel Llywydd y Grŵp.  

Rwy'n 23, y swyddog sabothol o'r brifddinas, Caerdydd. Tyfais i fyny'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac rwy’n angerddol am y campau; rwy’n chwarae pêl-rwyd, rygbi, rygbi cyffwrdd ac roeddwn yn ddigon ffodus rhwng 16 a 18 oed i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rygbi Cyffwrdd Ewrop. Arweiniodd byd chwaraeon at fy mhenderfyniad i ymgymryd â chwrs gradd, gan ddewis aros yng Nghymru i astudio Therapi Chwaraeon ar Gampws Caerfyrddin.  

Fy hoff anifail yw’r Jiráff, dwi'n meddwl bod hynny oherwydd mai dim ond 5'3 ydw i, ac fe hoffwn fod yn dal iawn a byw mewn gwlad boeth. 

Mae gennyf ADHD felly gallaf uniaethu â llawer ohonoch sy'n astudio yma, ac mae'n ymddangos mai un o'm cymhellion ar hyn o bryd yw fy mod wedi dechrau'r rôl hon y llynedd gyda 12 tatŵ ac ar hyn o bryd mae gen i 38 ac mae mwy i ddod. Efallai fod hyn yn dipyn o obsesiwn, ond mae'n fy nghadw i'n hapus!! 

Fy rhif lwcus yw 13 a chefais fy nhrwydded yrru ar ddydd Gwener 13eg; mae'n ymddangos i mi drechu'r diwrnod hynod anlwcus hwnnw!!