Rolau ar y Pwyllgor
Llywydd / Capten
Mae'r rôl hon yn gweddu i rywun sy’n drefnus, yn hyderus, yn dda am ddirprwyo tasgau i eraill ac yn gyfathrebwr da.
Bydd y Llywydd yn:
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer UMyDDS ac ymholiadau gan aelodau'r clwb/cymdeithas
- Llenwi’r Ffurflen Ymaelodaeth bob blwyddyn academaidd
- Bod yn arweinydd ac yn llefarydd ar ran y clwb/cymdeithas
- Sicrhau bod y gymdeithas yn rhedeg yn hwylus, gan gymryd cyfrifoldeb yn y pen draw am ddigwyddiadau, cyfarfodydd a chyfathrebu
- Cymryd cyfrifoldeb ar y cyd am geisiadau cyllido mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd
- Sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr â phosib yn cyfranogi yng ngweithgareddau’r clwb/cymdeithas drwy fynd ati i hyrwyddo yn ffair y Glas bob blwyddyn
- Trefnu parhad y clwb/cymdeithas o flwyddyn i flwyddyn, e.e. Cydlynu’r broses drosglwyddo yn ystod tymor yr haf os yw'r pwyllgor yn graddio
- Darllen y Llawlyfr Clybiau/Cymdeithasau a sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei hanfon allan i’r pwyllgor a'r aelodau
- Mynychu unrhyw gyfarfodydd sy'n ymwneud â’r clwb / cymdeithas, e.e. CCB Clybiau/Cymdeithasau ar ddechrau pob blwyddyn academaidd
Trysorydd
Mae'r rôl hon yn gweddu i rywun sy'n dda gyda ffigurau, sy’n ddibynadwy ac y gellir ymddiried ynddynt
Bydd y Trysorydd yn:
- Rheoli cyllideb y clwb/cymdeithas; mae'n rhaid gwneud hyn drwy gyfrif banc UMyDDS yn unig. Ni chaniateir defnyddio cyfrifon allanol ar gyfer busnes clwb neu gymdeithas.
- Bod yn gyfrifol am dalu arian i mewn a chymryd arian allan ar ran y gymdeithas o'u cyfrif banc UMyDDS
- Cadw cofnodion o incwm a gwariant, e.e. derbynebau, y mae'n RHAID eu dychwelyd gydag unrhyw hawliad am arian yn ôl
- Cydlynu ag UMyDDS ar faterion cyllidol
- Sicrhau bod aelodau eraill y clwb/cymdeithas yn ymwybodol o reoliadau ariannol a'u cyfrifoldebau
- Sicrhau bod asiantaethau allanol a ddefnyddir gan y gymdeithas yn cyflwyno anfonebau cywir os oes angen eu talu
- Sicrhau bod unrhyw drin arian parod yn cael ei wneud mewn modd dibynadwy gan gadw cofnodion llawn
- Bod yn gyfrifol am lenwi ceisiadau grant a/neu fenthyciad a'u dychwelyd i dderbynfa UMyDDS mewn da bryd cyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith lle trafodir y cais
- Cytuno i gydymffurfio â chyfansoddiad UMyDDS yn y datganiad o fwriad y gymdeithas ar y ffurflen ymaelodaeth
Ysgrifennydd Cymdeithasol
Mae'r rôl hon yn gweddu i rywun sy'n drefnus, sy’n ddibynadwy ac sy’n dda am gymryd cyfrifoldeb
Bydd yr Ysgrifennydd Cymdeithasol yn:
- Sicrhau bod cyfathrebu’n digwydd rhwng y clwb/cymdeithas ac Undeb y Myfyrwyr, gan hysbysu'r UM am eich digwyddiadau a'ch gweithgareddau, fel y gallwn eich helpu i'w hyrwyddo ar ein gwefan a.y.b.
- Cadw rhestr gysylltu ar gyfer aelodau gydag enwau, cyfeiriadau e-bost, a rhif ffôn, ar sail y wybodaeth a gasglwyd wrth gofrestru drwy'r rhyngrwyd.
- Sicrhau bod pawb yn y clwb/cymdeithas yn cydnabod bod ganddyn nhw ddyletswydd gofal synnwyr-cyffredin tuag at ei gilydd.
- Gofyn am gyngor gan UMyDDS ar faterion diogelwch ar gyfer eich cymdeithas.
- Hyrwyddo arfer diogel o fewn y gymdeithas bob amser
- Asesu diogelwch digwyddiadau a lleoliadau arfaethedig
- Cydweithredu ag aelodau'r pwyllgor wrth drefnu digwyddiadau cymdeithasol
- Hyrwyddo digwyddiadau cymdeithasol dros gyfryngau cymdeithasol a gwefan y Clwb.
- Bod yn fodel rôl cadarnhaol i holl aelodau'r Clwb