Mae trosglwyddo’r awenau’n digwydd pan fo pwyllgor unrhyw grŵp sy'n dod i ddiwedd ei gyfnod yn paratoi aelodau’r pwyllgor newydd i ymgymryd â'u rôl.
Cyfrifoldeb y pwyllgor sy'n dod i ddiwedd ei gyfnod yw penderfynu sut y caiff y trosglwyddo ei gynnal. Rydym yn argymell eich bod yn dechrau drwy ddefnyddio ein templed i greu dogfen drosglwyddo ysgrifenedig.
Dylech hefyd feddwl am:
- Cael aelodau’r pwyllgor newydd yn cysgodi'r tîm sy'n gadael.
- Trefnu cyfarfod un-i-un gyda'r person yn cymryd drosodd gennych chi.
- Trefnu digwyddiad cymdeithasol ar gyfer y ddau bwyllgor.
- Cyflwyno aelodau newydd i unigolion allweddol e.e. Staff yr UM
Lawrlwythwch y templed ar gyfer y ddogfen Drosglwyddo
Pethau i'w Gwneud a Phethau i’w Hosgoi wrth Drosglwyddo’r Awenau.
- Peidiwch â gadael hyn tan y funud olaf. Treuliwch amser yn cynllunio'ch trosglwyddiad.
- Byddwch yn barod i addasu. Dylai cyfranogiad presennol a lefel profiad eich olynydd benderfynu pa mor fanwl y dylai'r broses drosglwyddo fod.
- Peidiwch â diflannu unwaith y bydd y broses wedi dod i ben. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu eich manylion cysylltu rhag ofn y bydd unrhyw gwestiynau'n codi.
- Rhowch gyfle iddyn nhw fwrw ati. Gallwch ddisgwyl i'ch olynydd wneud newidiadau nad ydych chi o bosib yn eu cymeradwyo; peidiwch ag ymyrryd a gadewch iddyn nhw fwrw ymlaen â’u gwaith.
- Peidiwch â mynd i banig. Gall trosglwyddo’r awenau beri straen, ond gyda chynllunio da ac ychydig o amynedd bydd popeth yn iawn.
- Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth os ydych ei angen Mae staff yr UM wrth law i’ch helpu drwy’r broses drosglwyddo; byddai'n well gennym eich helpu i drosglwyddo'n effeithiol na bod â phwyllgor gwaith newydd sydd heb baratoi’n iawn.