Mae pob Clwb a Chymdeithas yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a theithiau yn ystod y flwyddyn er mwyn cael eu haelodau i ymgysylltu a’u hannog nhw i gymdeithasu. Bydd yr adran hon yn rhoi sylw penodol i’r agwedd gynllunio, gan edrych ar gyllidebau a hyrwyddo er mwyn eu gwneud y digwyddiadau hynny mor llwyddiannus â phosib. Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn eich darparu â’r arfau angenrheidiol i gynllunio a chynnal amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau.
I ddechrau, mae angen cynnal asesiad risg ar gyfer popeth sy’n cael ei drefnu gan glwb/cymdeithas sydd y tu allan i’r hyn mae myfyrwyr yn ei wneud fel arfer. Er y gall hyn ymddangos i fod yn dipyn o strach er mwyn i chi allu cynnal digwyddiad, dyma’r rhan bwysicaf o gynllunio. Er y bydd rhai gweithgareddau’n fwy peryglus na’i gilydd, rhaid cynnal asesiad risg ar gyfer pob gweithgaredd. Serch hynny, os yw’r gweithgaredd mae eich clwb/cymdeithas yn ei gynnal yn un sy’n digwydd yn rheolaidd, gallwch gwblhau un asesiad risg a’i ddefnyddio dro ar ôl tro, cyn belled â’i fod wedi cael ei gymeradwyo (caiff Asesiadau Risg eu hadolygu bob 12 mis).
Mae asesiadau risg yn ffordd wirioneddol bwysig o sicrhau bod pob agwedd o ddiogelwch pawb wedi cael eu hystyried, er mwyn osgoi unrhyw anafiadau a lleihau unrhyw risg yn ystod digwyddiadau. Caiff pob asesiad risg ei wirio gan y Cydlynydd Datblygu Myfyrwyr, ac mae staff yr UM wrth law i’ch helpu i gwblhau asesiad risg os ydych chi’n ei chael yn anodd neu os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth.
Mae hefyd yn werth nodi os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad oddi ar y campws, bydd y lleoliad/cwmni am i chi arwyddo rhyw fath o gytundeb gyda nhw. Os mai dyma yw’r achos, mae croeso i chi ddod â’r ddogfen i Undeb y Myfyrwyr i’w gwirio cyn arwyddo unrhyw beth; mae llawer o gwmnïau yn tueddu i ychwanegu costau, rhywbeth y gellir ei osgoi gydag ychydig o ofal.