Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol newydd (GDPR) wedi newid y ffordd rydym yn casglu ac yn prosesu data personol, ac o ganlyniad mae canllawiau clir iawn erbyn hyn. Dan y GDPR newydd, mae angen i ni ddatgan yn glir:
Gall mynd yn groes i god GDPR arwain at gosbau difrifol gan gynnwys dirwyon mawr y gallai UMYDDS eu hwynebu os byddwn yn torri'r rheoliad - ac mae hyn yn golygu ei bod yn hynod bwysig eich bod chi'n gwybod ac yn deall sut mae casglu data.
Y goblygiadau mwyaf arnoch chi fel cynrychiolwyr chwaraeon a chymdeithasau yw nad oes modd casglu data gan eich aelodau bellach trwy unrhyw ffynhonnell arall na'n gwefan - mae hyn yn golygu diwedd ar restrau papur sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth. Nid oes modd pwysleisio’n ddigon cryf y gallech fod yn groes i'r GDPR newydd os byddwch yn casglu data am aelodau eich clwb yn anffurfiol.
Felly, mae'n bwysig eich bod yn gofyn i’ch holl aelodau ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar y wefan ar www.tsdsu.co.uk. Bydd angen i holl weinyddiaeth eich clybiau ddigwydd ar y wefan, gan gynnwys anfon negeseuon e-bost at eich aelodau. Cewch hyfforddiant ar sut mae gweinyddu eich clwb neu gymdeithas ar UnionCloud ym mis Medi. Heddiw, mae gofyn i chi ymuno â'r wefan i baratoi at yr hyfforddiant a sicrhau ein bod yn casglu eich data ar-lein gyda'r canllawiau GDPR newydd.
Cewch wybod mwy am GDPR a'i oblygiadau ar wefan yr ICO. https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/key-definitions/