Ar hyn o bryd, nid yw Undeb y Myfyrwyr yn caniatáu’r defnydd o’r bysiau-mini tan y byddwch yn clywed yn wahanol. Pan fyddwn ni’n ailddechrau’r gwasanaeth, bydd myfyrwyr cymwys sy’n diwallu’r meini prawf yn gallu llogi bysiau-mini.
Byddwn yn cyhoeddi’r diweddaraf am argaeledd bysiau-mini yma.
Mae myfyrwyr UMyDDS yn gallu llogi bws-mini drwy Undeb y Myfyrwyr. Mae gennym ddau fws-mini 16 sedd ar gael. Er mwyn gyrru un o'n bysiau-mini rhaid i chi fod:
*Dylid anfon copïau digidol at michelle.viccars@uwtsd.ac.uk cyn parhau â'ch cais archebu.
Cyn y gallwch chi yrru bws-mini UMyDDS rhaid i chi yn gyntaf ymgyfarwyddo â'r Asesiad Risg Bws-mini a Pholisi Bws-mini UMyDDS.
Asesiad Risg ar gyfer Bws-mini (Saesneg yn unig)Polisi Bws-mini UMyDDS (Saesneg yn unig)
I logi bws, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gais ar gyfer archebu bws-mini isod. Byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau eich archeb gynted â phosib.
Yn achos trefniadau llai na 3 diwrnod ymlaen llaw, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ar ôl llenwi'r ffurflen, fel y gallwn ddelio â’ch archeb yn gyflymach.
Ffurflen Gais i archebu Bws-mini
Cysylltwch â Michelle Viccars michelle.viccars@uwtsd.ac.uk / 01792 482 100 i drafod eich anghenion.
Cwblhewch y rhestr wirio cyn teithio
Cwblhewch y rhestr wirio ar ôl teithio