Canllawiau ar gyfer Digwyddiadau Cymdeithasol

Gall digwyddiadau cymdeithasol wedi’u trefnu gan Glybiau a Chymdeithasau fod yn ffordd effeithiol a difyr i groesawu myfyrwyr newydd i'ch gweithgareddau a chreu awyrgylch bywiog yn PCyDDS. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu cynllunio mewn modd cynhwysol fel y gall pob aelod gymryd rhan. Mae'r canllawiau isod yn bodoli i helpu clybiau a chymdeithasau i gynllunio eu gweithgareddau cymdeithasol a chreu'r amodau cywir i bawb fwynhau eu hunain yn ddiogel.
 

Pwyntiau i'w cofio wrth gynnal Digwyddiad Cymdeithasol

•    Mae pob digwyddiad cymdeithasol yn wirfoddol; ni all peidio â’u mynychu fod yn rhwystr i weithgareddau eraill. Ni chaiff mynychu digwyddiadau cymdeithasol unrhyw effaith ar gael eich dewis ar gyfer tîm / sgwad.
•    Mae holl aelodau pwyllgor y Clwb/Cymdeithas yn gyfrifol am gynnal digwyddiadau cymdeithasol a rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw weithgaredd yn ddiogel ac yn gynhwysol bob amser
•    Ni ddylai alcohol fod yn brif ffocws digwyddiad, na'r brif ffordd y mae digwyddiad yn cael ei hyrwyddo.
•    Ni ddylai unrhyw weithgareddau fod yn wahaniaethol, a dylent fod yn ddewisol.
•    Os gwneir trefniant ar gyfer prisiau is gyda lleoliad trwyddedig unigol, rhaid i'r cynnig ymestyn i ddiodydd di-alcohol.
•    Ni ddylid rhoi pwysedd ar unrhyw aelod sy'n dewis opsiwn di-alcohol i gymryd diod alcoholig yn ei lle.
•    Ni ddylid rhoi pwysedd ar unrhyw fyfyriwr i wneud unrhyw beth nad ydyn nhw am ei wneud.
•    Mae'r Ysgrifennydd Cymdeithasol ac aelodau eraill pwyllgor y Clwb/Cymdeithas yn gyfrifol am les yr holl aelodau sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad cymdeithasol.
•    Ni ddylai gweithgareddau cymdeithasol ddwyn anfri ar enw da UMyDDS na'r Clwb/Cymdeithas.
 
Ymddygiad Annerbyniol (nid yw'r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr)

Yn anffodus, mae digwyddiadau cymdeithasol clybiau a chymdeithasau wedi cael enw drwg yn genedlaethol am ymddygiad eithafol. Er mwyn amddiffyn myfyrwyr PCyDDS, mae'r rheolau canlynol yn berthnasol:
•    Bydd pob aelod yn ymateb yn wahanol i weithgareddau; o’r herwydd, ni ddylid rhoi pwysedd o unrhyw fath (yn fwriadol neu beidio) ar unrhyw aelod i wneud unrhyw beth yn erbyn ei ewyllys.
•    Difrodi eiddo pobl (gan gynnwys dillad)
•    Rhoi pwysedd/gorfodaeth ar bobl i yfed gormod o alcohol
•    Creu cymysgedd gyda chynhwysion a allai fod yn niweidiol (e.e. llawer o tsili, cnau, gwirodydd) neu gynhwysion sydd wedi'u bwriadu i fychanu unigolion (e.e. cymysgu diod â hylifau'r corff)
•    Noethni cyhoeddus dan orfodaeth
•    Pwysedd ar unigolion/grwpiau o unigolion i gyflawni tasgau, sy’n mynd i ddiraddio/bychanu unigolyn neu achosi niwed arall
•    Cam-drin corfforol
•    Cam-drin geiriol
•    Ymddygiad treisgar neu fygythiad o drais
•    Aflonyddu o unrhyw fath, gan gynnwys aflonyddu hiliol a rhywiol, ymysg mathau eraill
•    Gwaherddir defodau derbyn

 

Beth yw Defod Dderbyn?

“Digwyddiad lle mae disgwyl i aelodau clwb gyflawni tasg neu dasgau fel modd i ennill hygrededd, statws neu fynediad i'r clwb. Gellir cyflawni hyn drwy roi pwysedd ar unigolion gan eu cyfoedion (er nad yw hynny’n amlwg bob tro) a gall danseilio hunan-barch cynhenid unigolyn drwy orfodi neu ei gwneud yn ofynnol bod unigolyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel: yfed alcohol, bwyta cymysgedd o wahanol fwydydd, noethni ac unrhyw ymddygiad arall sy’n debygol o godi cywilydd ar yr unigolyn. Mae hyn hefyd yn ymestyn i ddefodau derbyn ar-lein ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol neu flogiau, a.y.b. Ni ddylid rhoi pwysedd ar unigolion i ddatgelu gwybodaeth bersonol, bod yn destun sylwadau, ffotograffau neu ddelweddau sy'n dilorni neu'n peryglu urddas unigolion neu grwpiau."
Bydd holl aelodau pwyllgor Clwb/Cymdeithas yn bersonol gyfrifol am unrhyw ddefodau derbyn a gynhelir, a gallant wynebu gweithdrefnau disgyblaeth UMyDDS os caiff y rheolau eu torri.

 
Mae Gweithdrefn Ddisgyblu ar gyfer grwpiau’n cynnwys:

•    Diddymu breintiau megis y gallu i logi cyfleusterau UMyDDS, hyfforddiant, stondin yn Ffair y Glas neu'r defnydd o gerbydau wedi eu llogi a.y.b.
•    Dirwy(on)
•    Diddymu eu grant a/neu'r gallu i ymgeisio am gyllid yn y dyfodol
•    Gwahardd tim(oedd) o gystadleuaeth BUCS
•    Gwahardd y clwb o gystadleuaeth BUCS
•    Cau’r Grŵp Myfyrwyr
 

Mae Gweithdrefn Ddisgyblu ar gyfer unigolion yn cynnwys:

Dirwy(on)
•    Gwahardd unigolion o gystadleuaeth BUCS
•    Gwaharddiad o un gêm
•    Diarddel yr unigolyn o'r Grŵp Myfyrwyr
•    Adrodd i'r Brifysgol ar gyfer gweithdrefn ddisgyblu o dan god ymddygiad myfyrwyr
•    Adrodd i'r Heddlu ar gyfer Erlyniad Troseddol


* Os yw unrhyw aelod yn teimlo bod y canllawiau hyn wedi'u torri, dylent roi gwybod i'r Cydlynydd Datblygu Myfyrwyr.