Mae hysbysebu eich clwb/cymdeithas a denu nawdd yn ffordd hynod bwysig o helpu eich clwb/cymdeithas i dyfu a datblygu. Gall cynyddu’r arian sydd ar gael i chi helpu gydag ariannu cit neu offer newydd, talu am gyrsiau hyfforddi, a sicrhau bod eich gweithgaredd yn parhau'n gynaliadwy dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae'r rhan hon o'r llawlyfr wedi'i anelu at eich helpu i wneud hyn.
Cyn i chi ddechrau hysbysebu'ch clwb/cymdeithas mae angen i chi sicrhau bod gennych chi syniad clir o sut rydych chi am iddo edrych. Mae cael pawb at ei gilydd i rannu syniadau yn ffordd wych o wneud hyn; gallwch ffurfio llun gweledol ac ysgrifennu'ch meddyliau a'ch syniadau - wedyn gall gweddill y pwyllgor eu trafod. Cadwch hyn yn syml, dim gormod o destun a gwnewch yn siŵr ei fod yn berthnasol yn weledol.
Mae'n syniad da mynd ati i fwrw golwg ar wefannau Undebau Myfyrwyr eraill, efallai cysylltu â chlybiau/cymdeithasau tebyg a gofyn am gyngor o ran yr hyn a weithiodd iddyn nhw a.y.b. er mwyn rhoi gwell syniad i chi o'r hyn y mae angen i chi anelu ato.
Mae'n bwysig iawn sicrhau bod eich hysbysebu'n drawiadol a’i fod yn gwneud i fyfyrwyr fod eisiau ymuno â'ch clwb/cymdeithas, ond cofiwch beidio â'i wneud yn ormesol gyda gormod o destun a delweddau; rydych chi am i fyfyrwyr gael eu swyno, nid eu diflasu gan destun hirfaith
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y costau (os oes rhai) cyn gwneud penderfyniadau ar sut rydych chi'n mynd i hysbysebu'ch clwb/cymdeithas ac unrhyw ddigwyddiadau rydych chi'n mynd i'w cynnal neu ddeunydd hyrwyddo rydych chi'n mynd i'w greu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried yr amgylchedd ar bob cam o'ch cynllunio / datblygu / cynhyrchu a hysbysebu. Mae lleihau gwastraff a lleihau ein hôl troed carbon yn hynod bwysig i ni a'n hymgyrch effaith gwyrdd. Ceisiwch sicrhau bod holl ddillad y clwb/cymdeithas yn rhai Masnach Deg os yw’n bosib. Mae'n bwysig eich bod yn cadw hyn mewn cof wrth gychwyn prosiectau newydd.
Efallai y byddwch am geisio dod o hyd i noddwr masnachol i fuddsoddi yn eich gweithgaredd - gall hyn helpu i dyfu eich gweithgaredd, ond mae'n rhaid i chi fod yn ofalus iawn o ran yr hyn rydych chi'n addo ei gyflawni iddyn nhw yn sgil eu buddsoddiad. Mynnwch gymaint o fanylion â phosib mewn unrhyw gytundeb ymlaen llaw fel y bydd yn glir yn nes ymlaen a ydych chi'ch hun a'r noddwr wedi cyflawni'ch addewidion. Bydd staff yn Undeb y Myfyrwyr wrth law i helpu â llunio cytundebau, ac ni ddylid llofnodi cytundeb nes iddo gael ei gymeradwyo gan Reolwr Busnes a Chyllid Undeb y Myfyrwyr.