LGBTQ+

  • Ewch â Fi Adref

    Y Botwm 'Ewch â Fi Adref'

    Cliciwch y botwm hwn os oes angen i chi adael y dudalen hon yn gyflym - cewch eich ailgyfeirio i'n hafan.
    Rydyn ni am i chi deimlo'n ddiogel, heb ofni cael eich cyfeiriadedd rhywiol wedi’i ddatgelu oherwydd unrhyw beth sydd ar y sgrin. Bydd y dudalen hon yn dal i ddangos yn eich hanes pori - gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei chlirio.

 

🏳️‍🌈 Croeso i'n Hyb LHDTC+

Dyma gornel fwyaf lliwgar ein gwefan, y dudalen LHDTC+. Rydyn ni wedi creu'r dudalen hon i chi archwilio adnoddau cydnaws-â-chwïar, cael gafael ar gymorth, ar y campws ac oddi arno, a dysgu ychydig mwy am y gymuned LHDTC+.

Gallwch ddod o hyd i'r cyngor sydd ei angen arnoch yn gyflym ac yn hawdd.

Hunaniaeth a Dod Allan

Mae'r daith o ddarganfod eich hunaniaeth yn unigryw, ond nid yw’n un y mae'n rhaid i chi ei gwneud ar eich pen eich hun. Isod mae rhai adnoddau gwych i'ch helpu chi i ddod i delerau â'ch teimladau, deall termau newydd, a sut i 'ddod allan' i'r bobl hynny sy’n bwysig i chi. 

Geirfa Hunaniaeth

Trawsrywiol, Afrywiol, Traws, Deurywiol - gall fod yn anodd deall yr holl labeli! Efallai y byddwch chi'n dod ar draws termau nad ydych chi wedi'u clywed o'r blaen, neu ddim yn gwybod sut i labelu eich teimladau. Mae Stonewall wedi llunio rhestr ddefnyddiol iawn o dermau sy'n ymwneud â hunaniaeth. 

Termau Hunaniaeth gan Stonewall

Dod Allan

Mae dod allan yn benderfyniad personol iawn - chi sydd i benderfynu pwy rydych chi'n dod allan iddyn nhw, a hyd yn oed p'un a ydych chi'n dod allan o gwbl. Os ydych chi wedi bod yn ystyried dod allan, mae'n bwysig dod o hyd i ffordd sy'n teimlo'n iawn i chi.

Traws, Anneuaidd a Rhyweddol-amrywiol

Mae'r adran hon yn darparu cyngor defnyddiol i bobl sy'n diffinio fel traws, anneuaidd neu'n rhyweddol-amrywiol. Hunaniaeth ryweddol yw ymdeimlad mewnol, personol unigolyn o fod. Trawsryweddol, neu Draws yn fyr, yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywun y mae eu hunaniaeth ryweddol yn wahanol i'r rhyw a aseiniwyd iddynt adeg eu geni. Mae anneuaidd yn derm ymbarél ar gyfer pobl nad yw eu hunaniaeth ryweddol yn ffitio’n daclus i’r categori ‘dyn’ neu ‘ddynes’. A rhyweddol-amrywiol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio rhywun nad oes ganddynt rywedd sefydlog.

Cymorth â Hunaniaeth Ryweddol

Mae anghenion iechyd cyffredinol pobl draws ac anneuaidd yr un fath ag anghenion unrhyw un arall. Ond mae’n bosib bod gan bobl draws ofynion iechyd ychwanegol. Mae'r GIG yma i helpu â sicrhau eich bod chi'n cael y gofal sydd ei angen arnoch chi.

Cymorth i bobl draws gan y GIG

Newid eich Enw

Nid oes rhaid i chi ddilyn proses gyfreithiol i ddechrau defnyddio enw newydd. Ond efallai y bydd angen 'gweithred newid enw' arnoch chi i wneud cais am, neu newid, dogfennau swyddogol fel eich pasbort neu'ch trwydded yrru.

Dogfennau Adnabyddiaeth Myfyrwyr

Gall myfyrwyr ddiweddaru eu henw (a dileu eu henw marw) ar eu dogfennau adnabyddiaeth myfyrwyr yn PCyDDS am ddim. Meddai Jennifer Sargisson, Swyddog Hunaniaeth Rhywedd ar gyfer Abertawe: 'Mae'n un peth llai i dalu amdano yn ystod y broses gostus o drawsnewid, ac mae’n rhoi dilysrwydd i chi pan gewch chi ID gyda'ch enw arno.'

Mermaids

Mae Mermaids yn elusen sy'n darparu cymorth, cyngor ac arweiniad i bobl draws, anneuaidd a rhywedd-amrywiol a'u teuluoedd. Mae ganddyn nhw hyd yn oed adnodd yn benodol ar gyfer myfyrwyr 18 - 25 oed.

Rhwymo'n Ddiogel

Gall dynion traws a phobl anneuaidd ddewis defnyddio offer rhwymo i newid eu golwg. Mae yna bethau i'w gwneud a phethau i’w hosgoi wrth rwymo'n ddiogel, ac mae'r bobl yn PinkNews wedi llunio fideo sy’n esbonio hyn.

Cymunedau LHDTC+

Gall profiadau pobl LHDTC+ fod yn heriol; dyna pam mae'n bwysig defnyddio cefnogaeth eich cymunedau. Dyma rai grwpiau a all gynnig cyngor a chefnogaeth i chi.

Grwpiau Rhyddhad

Mae gan eich Undeb Myfyrwyr Grŵp Rhyddhad LHDTC+ ar gyfer aelodau’r gymuned a’u cefnogwyr. Mae’n rhwydwaith dan arweiniad myfyrwyr, ac yn lle diogel i aelodau rannu eu profiadau, sefydlu cyfeillgarwch a chynllunio ymgyrchoedd.

Grŵp Rhyddhad LHDTC+

Cynrychiolwyr

Dyma nhw ein Swyddogion Rhan-amser, a etholwyd gan fyfyrwyr ar gyfer y gymuned LHDTC+.

Gallwch weld yr holl Swyddogion

Cymdeithasau dan arweiniad Myfyrwyr

Mae gan yr Undeb gymdeithasau LHDTC+ dan arweiniad myfyrwyr. Mae'r grwpiau cymdeithasol hyn yn ffordd wych o gwrdd ag aelodau o'r gymuned. Mae gennym gymdeithasau LHDTC+ ar ein campysau yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe. 

Teulu’r Enfys Affricanaidd

Mae Teulu’r Enfys Affricanaidd yn darparu cymorth i bobl LHDTC+ o dras Affricanaidd, gan gynnwys Ffoaduriaid a Grwpiau Ethnig Lleiafrifol Croenddu ac Asiaidd ehangach. 

Ewch i African Rainbow Family

Black Pride

Balchder Croenddu yw’r dathliad mwyaf yn Ewrop ar gyfer pobl LHDTC+ o dras Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd neu o’r Dwyrain Canol neu America Ladin.

Black Pride

LGBTI Asiaidd Prydain

Mae LGBTI Asiaidd Prydain yn darparu cymorth i’r gymuned LHDTC+ sy’n wreiddiol o Dde Asia.

Gaysains

Yn darparu cyngor a chefnogaeth i aelodau cymuned LHDT+ De Asia.

Glitter Cymru

Mae Glitter Cymru yn grŵp cymorth cymdeithasol adnabyddus ar gyfer y gymuned Leiafrifol Ethnig LHDTC+ yng Nghymru a'r ardaloedd cyfagos. 

Ewch i Glitter Cymru

Open Minds (Taraki)

Mae Open Minds yn rhan o Taraki, sy’n mynd ati i gyd-greu lleoedd mwy diogel i bobl Punjabi LHDTC+ a'u cefnogwyr. 

Ewch i Open Minds

Hidayah

Mae Hidayah yn fudiad seciwlar sy'n darparu cymorth arbenigol ar gyfer anghenion Mwslimiaid LHDTC+. 

Ewch i Hidayah

Rhyw Diogel

Gyda phwy bynnag rydych chi'n cael rhyw, mae'n bwysig cymryd camau i amddiffyn eich hun ac unrhyw bartner(iaid) a allai fod gennych. Dyma rai adnoddau i'ch helpu chi i gael rhyw gwych (a diogel).

Cyngor i Ddynion Cis

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn darparu cyngor ar iechyd a rhyw i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion. Defnyddir ‘Cis’ fel ansoddair sy’n golygu ‘ddim yn draws’. Mae pobl Cisryweddol yn uniaethu â’r rhywedd a aseiniwyd iddynt ar adeg eu geni

Cyngor gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

Cyngor i Fenywod Cis

Mae GIG yn darparu cyngor ar iechyd a rhyw i yn fenywod sy'n cael rhyw gyda menywod. Defnyddir ‘Cis’ fel ansoddair sy’n golygu ‘ddim yn draws’. Mae pobl Cisryweddol yn uniaethu â’r rhywedd a aseiniwyd iddynt ar adeg eu geni

Cyngor gan y GIG

Cyngor ar gyfer pobl Draws ac Anneuaidd

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn darparu cyngor ar iechyd a rhyw ar gyfer y gymuned draws ac anneuaidd.

Cyngor gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cyngor gan Whitman-Walker

Cyngor ar Intersex folx 

Mae Healthline ac InterAct yn darparu cyngor ar gyfer pobl Rhywedd Ehangol a Rhyngryw.

Cyngor gan Healthline Cyngor gan InterAct

Cyfrannu at y dudalen hon.

Mae'r gymuned LHDTC+ yn esblygu'n gyson; felly hefyd y dudalen hon. Os hoffech chi awgrymu diweddariad neu os oes gennych chi ymholiad penodol, anfonwch e-bost atom.

michaella.batten@uwtsd.ac.uk

Gwasanaethau Iechyd Rhywiol yng Nghymru

Gall Frisky Wales ddarparu dulliau atal cenhedlu, iriad, profion a chyngor am ddim i chi.

Ewch i Frisky Wales

Gwasanaethau Iechyd Rhywiol yn Lloegr

Mae gan GIG Lloegr gyfeiriadur defnyddiol i'ch galluogi i ddod o hyd i glinigau iechyd rhywiol yn Lloegr yn hawdd.

Cyfeiriadur y GIG

HIV ac AIDS

Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn elusen Brydeinig sy'n ymgyrchu ac yn darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â HIV ac iechyd rhywiol.

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

Pre-exposure Prophylaxis (PrEP)

Os ydych chi'n HIV negyddol, gallwch amddiffyn eich statws negyddol trwy gymryd PrEP, meddyginiaeth sy'n lleihau'ch risg o ddal HIV.

PrEP ar y GIG

Post-exposure Prophylaxis (PEP)

Mae PEP yn gyfuniad o gyffuriau a all atal HIV rhag gafael ar ôl i chi ddod i gysylltiad â’r haint. Iddo weithio, rhaid cymryd PEP cyn pen 72 awr ar ôl dod i gysylltiad (yn ddelfrydol dylid ei gymryd o fewn 24 awr). Nid yw PEP yn 'bilsen bore drannoeth' ar gyfer HIV, ac nid oes sicrwydd y bydd yn gweithio. 

Dewch o hyd i Ddarparydd PEP

Adnoddau Defnyddiol

Cyngor Cyffredinol LHDTC+

Cennad Stonewall yw sicrhau cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru. Maent yn adnodd gwych ar gyfer cyngor ar ddod allan, dod o hyd i ddigwyddiadau yn eich ardal chi, a gwybodaeth ynghylch amryw o bynciau LHDTC+.

Ewch i Stonewall

Atal Argyfwng

Mae’r Trevor Project yn sefydliad blaenllaw sy'n darparu gwasanaethau ymyriad mewn argyfwng ac atal hunanladdiad ar gyfer pobl ifanc LHDTC+ dan 25 oed.

Ewch i’r Trevor Project

Materion Cartrefi a Thai

Mae Ymddiriedolaeth Albert Kennedy AKT yn cynnig cymorth i bobl ifanc LHDTC+ rhwng 16 a 25 oed yn y DU sy'n ddigartref, ar fin bod yn ddigartref neu'n byw mewn amgylchedd gelyniaethus.

Ewch i AKT

Llesiant

Mae’r Prosiect CYSYLLTU yn brosiect llesiant newydd sydd â’r nod o geisio lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith myfyrwyr. Os ydych chi am gael cwmni ar gyfer mynd i ddigwyddiadau neu ddim ond eisiau wyneb cyfeillgar i siarad â nhw, dyma'ch lle chi.

Gwefan CYSYLLTU

Gwasanaeth Cwnsela

Mae PCyDDS yn cynnig sesiynau cwnsela am ddim, naill ai ar-lein neu ar y campws.

Mwy am Gwnsela

Cyfrannu at y dudalen hon.

Mae'r gymuned LHDTC+ yn esblygu'n gyson; felly hefyd y dudalen hon. Os hoffech chi awgrymu diweddariad neu os oes gennych chi ymholiad penodol, anfonwch e-bost atom.

union@uwtsd.ac.uk

Angen cyngor?

Os ydych wedi edrych ar yr adnodd uchod ac yn dal i fod angen rhywfaint o gyngor, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cynghori’r Undeb - byddant yn eich cyfeirio i'r lle cywir i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.

unionadvice@uwtsd.ac.uk

Dyma Michaella

Mae Michaella yn helpu gyda'n gweithgareddau iechyd a llesiant, ynghyd ag allgymorth.

michella.batten@uwtsd.ac.uk

Dyma Rebecca

Mae Rebecca yn goruchwylio ein Rhwydweithiau Rhyddhad, a hi yw eich person y dylech chi fynd ati os oes gennych chi syniad ar gyfer ymgyrch. 

rebecca.crane@uwtsd.ac.uk