Rydym yn falch o gael ein harwain gan fyfyrwyr. Chi a'ch syniadau sy'n llunio'r hyn rydyn ni'n ei wneud! Mae enwebiadau ar agor yn 10:00 13 Hydref ar gyfer Etholiadau Myfyrwyr ar agor ar hyn o bryd, ac mae rolau ar gael i bob myfyriwr o bob campws.
Byddwch yn helpu i lunio polisïau sy'n effeithio ar fyfyrwyr ac yn cyfeirio gwaith ymgyrchu; byddwch o fudd i'ch cymuned a'ch campws, yn ogystal ag ennill llawer o brofiad (sy'n edrych yn wych ar eich CV).
Er mwyn bod â siawns o gael eich ethol, mae angen i chi wneud enwebiad ar gyfer y rôl rydych chi ei heisiau - mae'n gyflym ac yn hawdd. Darllenwch yr hysbysiad a llenwch y ffurflen. Ewch i'r hysbysiad i ddod o hyd i rôl agored nawr. Enwebiadau'n Cau yn 23:59 24 Hydref.
Mae angen e-bost myfyriwr - os ydych chi'n barod i enwebu, bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch e-bost myfyriwr!
Mae Swyddogion Rhan-amser yn cynrychioli cymuned benodol o fyfyrwyr a meysydd diddordeb; maent hefyd yn mynychu ein Cynghorau Campws. Rolau gwirfoddol, rhan-amser yw’r rhain - yn ddelfrydol ar gyfer eu cyflawni ochr-yn-ochr â'ch astudiaethau. Mae yna 5 rôl i bob campws - pob un yn unigryw i'r campws hwnnw.
Mae'r rhain yn rolau gwirfoddol, sy'n agored i bob myfyriwr. Ydych chi eisiau gwybod mwy am y rôl hon? Ewch i'n tudalen we egluro rolau.
Rhaid i chi fod yn fyfyriwr sy'n astudio ar y campws, neu'n ddysgwr o bell ar y campws sy'n gysylltiedig â'r rôl gydol y flwyddyn academaidd 2025/26.
Bydd angen i chi hefyd hunan-ddifinio fel aelod o'r gymuned y byddwch yn ei chynrychioli.
Os ydych am fod yn ymgeisydd, darllenwch y canlynol www.uwtsdunion.co.uk/cy/voice/elections/regulations.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi angen cymorth, anfonwch e-bost at elections@uwstd.ac.uk.