Rydym am Gyflogi

Dydd Mawrth 08-07-2025 - 10:07
Blog hiring 2025

Rydyn ni wrthi’r recriwtio ar hyn o bryd ac yn bwriadu cyflogi TRI o aelodau staff newydd - ac mae un o'r rhain yn rhywbeth newydd sbon, Intern Graddedig!

Cydlynydd Llais Myfyrwyr (Wedi'i leoli yng Nghymru) a Chydlynydd Llais Myfyrwyr (Llundain)

Rydym eisiau dau berson i ymuno â'n tîm Llais fel Cydlynwyr Llais Myfyrwyr - un yng Nghymru ac un yn Llundain. Mae gan y rolau gyfrifoldebau penodol, felly edrychwch ar y rhestr swyddi am y manylion llawn. Ond fel trosolwg, mae'r ddwy rôl yn llawn-amser ac yn barhaol, gyda chyflog sylfaenol o £24,338, gyda'r rôl yn Llundain yn cael £3,000 ychwanegol oherwydd costau byw yn y ddinas (sy’n dod â’r cyflog i £27,338).

Cydlynydd Llais y Myfyrwyr: Democratiaeth ac Ymgyrchoedd
Cydlynydd Llais y Myfyrwyr: Llundain

Intern Graddedig: Ymchwil a Mewnwelediadau

Rydym yn chwilio am rywun i ddod yn Intern Graddedig i'n helpu i gasglu a dadansoddi data myfyrwyr er mwyn gwella profiad y myfyrwyr yn PCyDDS, gan ganolbwyntio ar fuddiannau academaidd, ymgyrchu, polisi a democratiaeth. Byddwch hefyd yn helpu i greu ein Hadroddiad Ansawdd Blynyddol ar gyfer 2026 ac yn rhannu eich canfyddiadau gyda'r tîm ehangach a swyddogion etholedig. Mae'n rôl lawn-amser, am gyfnod penodol o flwyddyn, wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin neu Abertawe, gyda chyflog o £22,222.

Intern Graddedig: Ymchwil a Mewnwelediadau

Gwnewch Gais Nawr

Mae ceisiadau ar agor ar draws pob rôl ac yn cau ar 30ain Gorffennaf 2025. Edrychwch ar y rhestrau swyddi unigol am yr holl fanylion a ffurflenni cais.

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...