Datblygu eich gwaithgareddau

Mae llawer o Glybiau a Chymdeithasau'n mynd yn segur bob blwyddyn; bydd y wybodaeth a ddarperir isod yn atal eich Clwb neu Gymdeithas chi rhag bod yn un ohonyn nhw.


Y peth pwysicaf wrth ddatblygu eich grŵp yw cofio pam eich bod yn bodoli; edrychwch yn ôl ar eich nodau a'ch amcanion a restrwyd gennych ar ddechrau'r flwyddyn a dynodwch y meysydd rydych chi'n meddwl y mae angen i chi eu gwella. Unwaith y byddwch chi wedi dynodi pam mae'ch Clwb neu Gymdeithas yn bodoli, gallwch fynd ati i gael pobl i gymryd rhan ynddo.


Mae yna lawer o resymau pam nad yw pobl yn ymgysylltu ac mae'r rhesymau hyn wedi'u rhestru isod, ynghyd â sut y gallwch fynd i'r afael â nhw. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd annog pobl i gymryd rhan yn eich Clwb / Cymdeithas, mae'n fwy na thebyg bod y broblem wedi'i rhestru isod.

 


 

Rhesymau pam nad yw pobl yn ymgysylltu

 

Canfyddiad

  • Mae pawb eisoes yn adnabod ei gilydd
  • Rhai aelodau ddim yn gallu gwario cymaint o arian ag eraill
  • Aelodau’n dod ar draws fel arbenigwyr
  • Ddim yn yfed alcohol

 

Sut i fynd i'r afael â’r rhain

  • Ystyriwch gynnal sesiynau i ddechreuwyr / sesiynau croeso i aelodau newydd
  • Amrywiwch eich digwyddiadau cymdeithasol i gynnal diddordeb pawb
  • Ystyriwch ddigwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau cost-isel er mwyn gallu cynnig rhywbeth i bawb

 


 

Diffyg Trefn

  • Aelodau ond yn cael rhybudd byr am weithgareddau
  • Aelodau ddim yn siŵr beth yw'r cynlluniau
  • Diffyg cyfathrebu ag aelodau newydd ar ôl iddynt gofrestru
  • Nid yw myfyrwyr yn gwybod eich bod yn bodoli (Diffyg presenoldeb yn Ffair y Glas a.y.b.)

 

Sut i fynd i'r afael â’r rhain

  • Cynlluniwch ymlaen llaw a ffurfiwch gynllun ar gyfer y tymor.
  • Dynodwch ddulliau cyfathrebu da sy'n gweithio i'ch Clwb / Cymdeithas.
  • Trefnwch weithgareddau wythnosol a rhoi gwybod i'r aelodau wythnos ymlaen llaw.
  • Cynhaliwch sesiynau rhagarweiniol neu ddigwyddiad cymdeithasol ar ddechrau pob tymo.
  • Gwnewch yn sicr fod yr UM yn hyrwyddo’ch Clwb / Cymdeithas yn iawn.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu stondin yn Ffair y Glas a gwneud iddi sefyll allan.

 


 

Aelodau cyfredol yn or-gyfeillgar â’i gilydd

  • Nid yw'r aelodau presennol yn gwneud yr ymdrech i groesawu aelodau newydd (cofiwch eich bod chi i gyd wedi bod yn aelodau newydd unwaith).
  • Dim ond hysbysebu gweithgareddau i rai pobl yn benodol.
  • Cynnal digwyddiadau, ond ddim yn rhoi digon o fanylion amdanynt.

 

Sut i fynd i'r afael â’r rhain

  • Gwnewch yn sicr fod yr holl aelodau cyfredol yn gwneud yr ymdrech i groesawu aelodau newydd.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob aelod newydd yn gwybod beth yw pwrpas y clwb a pha fath o weithgareddau rydych chi'n eu cynnal.
  • Cynllun Cyfaill Glas - Gallwch bartneru aelodau newydd gydag aelodau cyfredol.

 


 

Prinder Cyfleoedd 

  • Ddim yn cynnal digon o weithgareddau.
  • Cynnal digwyddiadau nad ydyn nhw'n berthnasol i bwrpas y Clwb / Cymdeithas.

 

Sut i fynd i'r afael â’r rhain

  • Dylai eich Clwb / Cymdeithas fod yn cynnal gweithgareddau wythnosol; does dim rhaid iddyn nhw i gyd fod yn ddigwyddiadau mawr; byddai trefnu cyfle i bobl ddod at ei gilydd am ychydig o oriau'r wythnos yn helpu i ennyn a chynnal diddordeb aelodau.
  • Gwnewch yn sicr eich bod yn dilyn eich cyfansoddiadau.

 


 

Cyfathrebu aneffeithiol â'r aelodau

  • Methu ag ymateb i e-byst neu ymholiadau.
  • Nid yw gwybodaeth a chynnwys y Wefan / manylion cysylltu yn gyfoes.
  • E-bost Sbam.
  • Dibynnu’n gyfangwbl ar Facebook.
     

Sut i fynd i'r afael â’r rhain

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb pob e-bost ac ymholiad. Os na allwch chi wneud hynny, gwnewch yn sicr bod rhywun arall yn gwneud ar eich rhan.
  • Gwnewch yn sicr fod gwybodaeth ar Wefan yr UM yn gyfoes.
  • Dylid anfon e-byst yn ymwneud â Gweithgareddau Cymdeithasol neu eraill, wythnos ymlaen llaw, e.e. os yw'r gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer dydd Mercher, dylech sicrhau bod pobl yn cael gwybod ar y dydd Iau blaenorol.
  • Crëwch restr bostio ar gyfer y grŵp.
  • Peidiwch â dibynnu ar un math o gyfathrebu - Defnyddiwch e-byst, Facebook, negeseuon testun, galwadau ffôn, posteri a.y.b. Efallai y bydd rhai aelodau'n methu e-bost, ond yn gweld y neges ar Facebook ac i'r gwrthwyneb; defnyddiwch cymaint o ddulliau â phosib.
  • Cyfathrebu wyneb yn wyneb yw'r ffordd fwyaf effeithiol i ymgysylltu ag aelodau, felly gwnewch yn siŵr bod gwybodaeth bwysig hefyd yn cael ei throsglwyddo yn ystod sesiynau ymarfer a phan fyddwch yn dod at eich gilydd yn gymdeithasol.

 


 

Tri cham i sicrhau mwy o aelodau cyfranogol

 

Cam un - Sut i ddenu mwy o fyfyrwyr

  • Mae’n bwysig gwybod beth rydych chi'n ei gynnig i aelodau newydd - Beth maen nhw'n ei gael o ymuno â'ch Clwb / Cymdeithas?
  • Dewch o hyd i bwynt gwerthu unigryw - Beth ydych chi'n ei gynnig nad yw eraill yn ei wneud?
  • Ei gwneud yn hawdd cyrchu gwybodaeth
  • Mae angen i chi gydbwyso'r gofynion â’r buddion - Gwnewch yn sicr eu bod yn elwa cymaint ag y maen nhw'n ei gyfrannu
  • Gwybod pwy neu beth yw’r gystadleuaeth

 
Cam dau - Mae’n bwysig iddyn nhw ddod yn ôl am fwy

 

  • Gwnewch eich Clwb / Cymdeithas yn groesawgar i aelodau newydd a’r rhai cyfredol
  • Ceisiwch greu naws gymunedol / teuluol yn eich Clwb / Cymdeithas
  • Mae’n bwysig canfod talentau unigol pobl a'u defnyddio nhw
  • Rhowch deimlad o berchnogaeth i aelodau eich Clwb / Cymdeithas
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhannu cyflawniadau blaenorol ag aelodau newydd, fel eu bod nhw'n cael gwell syniad o'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn hyrwyddo’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni gydol y flwyddyn
  • Peidiwch â bod yn ystyfnig o ran eich dulliau; byddwch yn agored i newid ac yn barod i wrando ar farn pobl

 
Cam tri - Cyfathrebu Effeithiol

  • Crëwch a hyrwyddwch grwpiau facebook ar gyfer eich clwb / cymdeithas 
  • Hysbysebwch eich digwyddiadau
  • Rhannwch eich rhifau cyswllt
  • Cynlluniwch ymlaen llaw
  • Gofynnwch i bobl gofrestru ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau ymlaen llaw
  • Defnyddiwch Instagram a Snapchat fel ffordd hawdd o hysbysu pobl ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd