Chwarae Dan Brotest

Os ydych chi’n cyrraedd ar gyfer gêm, neu yn ystod gêm, a’ch bod yn canfod nad yw’r amodau yn cydymffurfio â rheoliadau BUCS, dylai’r clwb gwblhau ffurflen Chwarae Dan Brotest, yn amlinellu’r rheoliadau sydd heb gael eu dilyn.

Drwy gwblhau ffurflen Chwarae Dan Brotest, gall y clwb apelio ar ddiwedd y gêm os yw’r clwb yn teimlo bod y cwynion oedd ganddynt wedi cael effaith uniongyrchol ar ganlyniad y gêm, neu wedi rhoi mantais annheg i un o’r timau. Os nad yw clwb yn cwblhau ffurflen Chwarae Dan Brotest, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y clwb wedi derbyn yr amodau, ac ni fydd clwb yn gallu apelio.

Lawrlwythwch Ffurflen Chwarae Dan Brotest