Etholiadau’r Hydref 2021: Dechrau'r Cyfnod Enwebu!

Dydd Gwener 10-09-2021 - 10:00

 Autumn Elections Nominations Open

Etholiadau’r Hydref

Rydym yn falch o gael ein harwain gan fyfyrwyr; chi a'ch syniadau sy'n llunio'r hyn rydyn ni'n ei wneud! Mae Etholiadau’r Hydref yn rhoi cyfle i chi sefyll a phleidleisio dros un o'n swyddi arweinyddiaeth agored a dylanwadu ar bethau ar gyfer 2021/22 a thu hwnt.

Mae yna rolau ar gyfer pawb, o Swyddogion Rhan-amser i Gynrychiolwyr ar gyfer Cynadleddau! Gweler isod y dyddiadau a'r terfynau amser; os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y Tîm Etholiadau: election@uwtsd.ac.uk.

Sut i sefyll yn ein hetholiad

Mae enwebu'ch hun yn hawdd; y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod o hyd i rôl rydych chi am sefyll amdani o'r rhestr isod, a llenwi'r ffurflen Enwebwch Eich Hun. Byddwn yn cysylltu’n ôl â chi’n fuan gyda mwy o fanylion a sut i fynd ati i gyflwyno'ch datganiad maniffesto. Ac os ydych chi'n adnabod rhywun fyddai, yn eich barn chi’n berffaith ar gyfer rôl, llenwch y ffurflen Enwebu Ffrind, a byddwn yn pasio’r neges ymlaen. 

Dyddiadau Pwysig

Dechrau'r Cyfnod Enwebu 

Dydd Gwener 10 Medi, 10am

Diwedd y Cyfnod Enwebu

Dydd Gwener 22 Hydref, 11am

Briffio’r Ymgeiswyr 

Dydd Gwener 22 Hydref, 6pm

Dyddiad cau ar gyfer Maniffestos

Dydd Gwener 29 Hydref, 11am

Bydd y cyfnod pleidleisio’n agor

Dydd Llun 8 Tachwedd, 10am

Sesiwn Holi’r Ymgeiswyr

TBC

Daw’r cyfnod pleidleisio i ben

Dydd Iau 11 Tachwedd, 3pm

Caiff y canlyniadau eu rhyddhau

Dydd Gwener 12 Tachwedd, 12pm

 

Beth yw Maniffesto?

Mae maniffesto yn ddatganiad sy'n dweud wrth bleidleiswyr pwy ydych chi a beth rydych chi am ei gyflawni. Mae'n fyr ac yn gryno, ac mae’n gadael i bleidleiswyr wybod mwy amdanoch chi. Ni ddylai'r maniffesto fod yn fwy na 200 o eiriau.

Ysgrifennu Maniffesto

Rolau sydd ar gael

Swyddogion Rhan Amser

Mae rôl Swyddogion Rhan-amser neu 'SRhA' yn seiliedig ar bortffolio er mwyn cynrychioli grwpiau diddordeb arbennig a / neu ddemograffeg. Maent yn gweithio gyda'r swyddogion llawn-amser i gynrychioli myfyrwyr. Mae'r swyddogion sydd yn y rolau hyn yn mynychu eu Cyngor Campws perthnasol.

  • Gwirfoddol
  • Rhan Amser
  • 15 Rolau

• Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
• Swyddog y Myfyrwyr Anabl
• Swyddog y Myfyrwyr Traws
• Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
• Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
• Swyddog yr Ôl-raddedigion
• Swyddog y Cymdeithasau
• Swyddog Clybiau Chwaraeon
• Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr
• Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
• Swyddog Cynaladwyedd
• Swyddog Gwirfoddoli a RAG
• Swyddog Llesiant
• Swyddog yr Iaith Gymraeg
• Swyddog Rhyddhad y Menywod

Dysgu Mwy: Swyddogion Rhan Amser

  • Gwirfoddol
  • Rhan Amser
  • 15 Rolau

• Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
• Swyddog y Myfyrwyr Anabl
• Swyddog y Myfyrwyr Traws
• Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
• Swyddog LHDT+ (Safle Agored)
• Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
• Swyddog Myfyrwyr Hŷn
• Swyddog yr Ôl-raddedigion
• Swyddog y Cymdeithasau
• Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
• Swyddog Cynaladwyedd
• Swyddog Gwirfoddoli a RAG
• Swyddog Llesiant
• Swyddog yr Iaith Gymraeg
• Swyddog Rhyddhad y Menywod

Dysgu Mwy: Swyddogion Rhan Amser

  • Gwirfoddol
  • Rhan Amser
  • 15 Rolau

• Swyddog y Myfyrwyr Croenddu
• Swyddog y Myfyrwyr Anabl
• Swyddog y Myfyrwyr Traws
• Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
• Swyddog LHDT+ (Safle i Ddynes)
• Swyddog Myfyrwyr Hŷn
• Swyddog y Cymdeithasau
• Swyddog Clybiau Chwaraeon
• Swyddog Ymgysylltu â Myfyrwyr
• Swyddog Myfyrwyr sy’n Rhieni/Gofalwyr
• Swyddog Cynaladwyedd
• Swyddog Gwirfoddoli a RAG
• Swyddog Llesiant
• Swyddog yr Iaith Gymraeg
• Swyddog Rhyddhad y Menywod

Dysgu Mwy: Swyddogion Rhan Amser

Myfyrwyr Ymddiriedolwyr

Mae Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn helpu i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg er budd gorau myfyrwyr PCyDDS trwy graffu ar berfformiad a sicrhau bod yr Undeb yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn cael ei redeg mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy.

  • Gwirfoddol
  • Rhan Amser
  • 1 Rolau

Ar gyfer pobl sydd am helpu i sicrhau bod Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn cael ei redeg er budd gorau myfyrwyr yn PCyDDS.

  • 1 Rolau
  • Rhan amser, gwirfoddoli

Dysgu Mwy: Myfyrwyr Ymddiriedolwyr

Cynrychiolwyr i Gynadleddau UCM

Fe ddylech chi sefyll i fod yn Gynrychiolydd UCM os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli eich Undeb Myfyrwyr i UCM yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM! Mae hwn yn gyfle i chi bleidleisio ar bolisïau, gosod cyfeiriad UCM ac ethol Swyddogion UCM.  

  • Gwirfoddol 
  • Mae'r gynhadledd rhwng 28 Mawrth a 30 Mawrth yn Lerpwl
  • 4 Rolau

Ar gyfer pobl sydd am helpu i sicrhau bod Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn cael ei gynrychioli yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM. 

Dysgwch fwy am Gynrychiolwyr i’r Gynhadledd

  • Gwirfoddol 
  • Mae'r gynhadledd rhwng 20 Ebrill a 21 Ebrill; mae'r lleoliad i'w gadarnhau gan UCM
  • 6 Rolau

Ar gyfer pobl sydd am helpu i sicrhau bod Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn cael ei gynrychioli yng Nghynhadledd UCM Cymru 

Dysgwch fwy am Gynrychiolwyr i’r Gynhadledd

 

Y Rheolau a helpu

Gallwch ddod o hyd i’r rheolau ar gyfer yr etholiadau yma: www.uwtsdunion.co.uk/cy/elections/regulations..

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â ni trwy: etholiad@uwtsd.ac.uk

Tagiau perthnasol :

Rhagor o erthyglau Undeb Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant

Rhagor o erthyglau...