Cynrychiolwyr i Gynhadledd UCM

Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru yn cynnal cynadleddau cenedlaethol bob blwyddyn. Mae'r cynadleddau hyn yn gosod polisïau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod ac yn ethol Llywydd, Is-Lywydd a chynrychiolwyr eraill. Hefyd, caiff y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod ei phenderfynu trwy'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Mae gan Undeb Myfyrwyr PCyDDS gyfle i anfon cynrychiolwyr i'r cynadleddau hyn, lle gallant leisio eu barn, cymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisio yn yr etholiadau ac yn y CCB.