Dyfodol Llambed

 

Dyfodol Llambed

Mae’r Brifysgol wedi gwneud cynnig i symud cyrsiau Dyniaethau o Lambed i Gaerfyrddin o fis Medi 2025.

Mae myfyrwyr wedi lleisio’u barn - maen nhw'n grac, maen nhw'n poeni, a dydyn nhw ddim eisiau i'w cyrsiau a'u profiad fel myfyrwyr symud o Lambed i Gaerfyrddin.

Rydym yn falch o hyrwyddo llais ein haelodau, a gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol – ond rydym yn annibynnol arnynt. Mae'r sefyllfa'n newid yn gyflym, ac mae llawer o wybodaeth ar gael - rhywfaint ohoni’n gywir a rhywfaint yn anghywir. Rydyn ni wedi creu'r dudalen hon i’ch darparu â’r ffeithiau, barn myfyrwyr, a'r datblygiadau diweddaraf o Undeb y Myfyrwyr.

 

Sylwadau gan eich Llywydd Campws Llambed

Portrait of Rhobyn wearing a black top with a necklace stand in front of trees that are blurred out in the mid-distance

I fy nghyd-fyfyrwyr yn Llambed...

Rwyf am ddechrau trwy ddweud pa mor hynod o falch rydw i ohonoch i gyd. 

Mae eich dewrder, eich gwytnwch a'ch penderfyniad wrth sefyll dros yr hyn rydych chi'n credu ynddo yn ysbrydoledig. Rydych chi wedi sicrhau bod eich lleisiau'n cael eu clywed, ac mae eich gofal dwfn am y Llambed rydyn ni'n ei hadnabod a'i charu’n disgleirio drwodd ym mhob cam rydych chi wedi'i wneud. 

Fel llawer ohonoch, mae cynlluniau'r Brifysgol i symud ein myfyrwyr a'n rhaglenni o'r campws hanesyddol ac unigryw hwn wedi fy nigalonni. Nid dim ond lle yw Llambed - mae'n gymuned i bawb, yn noddfa i lawer, ac yn borth i unrhyw un sy'n ceisio cyflawni llwyddiant academaidd. Mae’n anodd derbyn y syniad o darfu ar hyn, ac rwy’n barod i sefyll gyda chi wrth ymladd dros ddyfodol ein campws.

Mae eich brwdfrydedd dros y campws hwn, ei ysbryd, a’r profiad unigryw y mae’n ei gynnig wrth wraidd popeth a wnawn fel Undeb Myfyrwyr. Gadewch i mi eich sicrhau, fyddwn ni ddim yn gadael i'r frwydr hon fynd heb ymateb iddi. Gyda’n gilydd, byddwn yn dal y brifysgol yn atebol, nid yn unig am ei haddewidion ond am yr effaith a gaiff ei phenderfyniadau ar eich bywydau, eich addysg, a’ch dyfodol. 

Mae a wnelo hyn â mwy nag adeiladau neu logisteg; mae’n ymwneud â phobl, gwerthoedd, a threftadaeth Llambed fel man lle gall myfyrwyr wirioneddol ffynnu.  

Rwy'n eich annog i barhau i fod yn gryf, parhau’n unedig a pharhau â’r frwydr. Daliwch ati i fynychu’r cyfarfodydd a’r gwrthdystiadau, llofnodwch y deisebau, ysgrifennwch at arweinwyr y Brifysgol, a rhannwch eich straeon am yr hyn y mae’r campws hwn yn ei olygu i chi. Mae pob gweithred yn cyfri!  

Peidiwch â digalonni. Rhaid i ni fod yn ddewr wrth i ni barhau i frwydro dros y campws a’r gymuned yr ydym i gyd yn credu ynddynt. 

Mewn undod a balchder diwyro, 

Rhobyn Grant
Llywydd Campws Llambed 

Myfyrwyr sydd wedi dweud hyn orau... 

Gofynnom i fyfyrwyr presennol rannu eu meddyliau – a dyma eu hadborth - rydym wedi eu cadw’n ddienw ac wedi’u cwtogi er mwyn bod yn gryno, ond gan osgoi dileu eu hystyr na’u heffaith.

Ydych chi wedi rhannu eich barn eto? Mae amser o hyd - gyrrwch e-bost atom union@uwtsd.ac.uk.

  • “...Rwyf wedi teimlo’r effeithio ar gwrs y Dyniaethau, gan fod un o’n dau ddarlithydd wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol... mae PCyDDS yn un o ddim ond dwy brifysgol achrededig sy’n darparu’r union lwybr Lefel 7 hwn – mae’n bwysig cadw hynny mewn cof. Mae’n hollbwysig dysgu gan y brifysgol beth mae ‘ymrwymiad i raglenni’r Dyniaethau’ yn ei olygu mewn gwirionedd.” 

  • “Mae’n wirioneddol siomedig clywed y gallai’r Dyniaethau gael eu symud… mae llawer yn dod i Lambed i gael heddwch a thawelwch ar y campws, yn enwedig y rhai â phroblemau synhwyraidd, y rhai sy’n ei chael yn anodd ymdopi â newid... A sut maen nhw'n mynd i symud rhai cyfleusterau Llambed fel y Labordai a’r Llyfrgell?” 

  • “...Mae pobl ar fy nghwrs (ysgrifennu creadigol) yn credu ei fod yn syniad hynod o wael, ac mae'n achosi llawer o straen i ni. Fe wnaethom ddewis dod i gampws Llambed yn benodol ar ôl ystyried llawer o brifysgolion eraill ledled y DU. Mae symud campws yn teimlo ei fod yn annilysu ein dewis (a’r arian rydym wedi’i wario ar ddod yma).” 

  • “Mae gan lawer ohonom ni niwroamrywiaeth o ryw fath neu’i gilydd, a dewison ni’n benodol dod i Lambed gan fod y lle’n fach ac yn dawel... bydd symud yn ychwanegu pwysau di-angen i’n bywydau prifysgol sydd eisoes dan straen.” 

  • “Bydd symud y campws (a’r llyfrgell) yn amlwg yn effeithio’n negyddol ar bobl leol... dewisais ddod i Lambed oherwydd ei fod yn agos at fy nghartref (bryd hynny). Dwi’n fyfyriwr hŷn sydd â phlant ifanc, felly roedd teithio pellteroedd hir yn mynd i fod yn anodd.” 

  • “Mae llawer yn dewis campws Llambed dim ond oherwydd ei fod yn fach, gyda system gefnogaeth dda... Mae fy merch eisiau gwneud y flwyddyn Sylfaen y flwyddyn nesaf - mae'n debygol na fydd y dewis hwn ar gael. Ni all hi wynebu campws mwy fel Caerfyrddin neu Aberystwyth. Ni fydd mynd i’r Brifysgol bellach yn hygyrch iddi.” 

  • “Rwy'n fyfyriwr rhyngwladol... gallwn fod wedi aros yn fy ngwlad enedigol, ond dewisais symud i Lambed oherwydd mai Llambed ydoedd; roedd yn ddewis perffaith... Rheswm arall pwysig dros fy newis oedd oherwydd y byddwn yn cael y cyfle i fod ar gampws sy'n canolbwyntio ar y Dyniaethau’n unig, maes astudio rydyn ni i gyd yn gwybod sy'n cael ei anwybyddu'n aml. Fel rhywun a gafodd ei fagu mewn gwlad sydd ddim yn gosod gwir werth ar y Dyniaethau, roedd dod o hyd i Brifysgol a oedd yn cynnig profiad o’r fath yn anhygoel... cael y cyfle i gael mynediad i’r archifau a hyd yn oed gwirfoddoli yno...” 

  • “Mae’r e-bost hwn yn ei hanfod yn golygu y bydd holl gyrsiau, myfyrwyr, a staff campws Llambed yn cael eu symud i Gaerfyrddin gyda chyn lleied â blwyddyn o rybudd. Mae hyn yn ofnadwy, ac yn peri dicter annisgrifiadwy i mi a myfyrwyr eraill. Deuthum i'r brifysgol hon oherwydd y lleoliad; roedd yna brifysgolion llawer uwch eu bri na es i iddynt oherwydd roeddwn i eisiau mynychu prifysgol mewn tref fach gyda chostau byw isel ac awyrgylch lleol. Pe bawn i wedi cael gwybod y byddai tarfu ar fy nhrydedd flwyddyn o astudio, fyddwn i ddim wedi dod yma yn y lle cyntaf. Mae Covid eisoes wedi tarfu’n sylweddol ar addysg y rhan fwyaf o bobl yn y brifysgol hon; dyma gic arall yn eu dannedd.” 

  • “Roeddwn i eisiau mynegi fy anfodlonrwydd â’r cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y brifysgol i symud y Dyniaethau i Gampws Caerfyrddin. Rwy’n fyfyriwr ail flwyddyn ar gwrs Dyniaethau a hoffwn aros ar y campws lle rwyf wedi cynnal y rhan fwyaf o’m hastudiaeth hyd yn hyn... Rwy’n meddwl bod y cyhoeddiad diweddar i symud y Dyniaethau i Gaerfyrddin yn gamgymeriad, oherwydd mae'n diystyru hanes cyfoethog Llambed a'i bwysigrwydd i'r diwylliant Cymreig... Agwedd arall i feddwl amdani yw llyfrgell Roderick Bowen. Mae'r llyfrgell yn ffynhonnell wych o wybodaeth sy'n ymwneud â'r Dyniaethau na ellir ei disodli na'i hailadrodd. Pe bai’r Brifysgol yn symud y Dyniaethau i Gaerfyrddin, byddai’n rhaid iddynt symud y llyfrgell yn ogystal, neu byddai myfyrwyr ar eu colled wrth ysgrifennu eu haseiniadau hollbwysig, yn enwedig o ran eu traethodau hir.” 

Llinell Amser yr Ymgyrch

Mae'r sefyllfa'n symud yn gyflym - rydym wedi creu llinell amser y gallwch chi sgrolio drwyddi (gyda'r datblygiadau diweddaraf ar y brig) i'ch hysbysu am ddatblygiadau diweddaraf yr ymgyrch. 

  • Sgroliwch i archwilio'r llinell amser
  • Dydd Llun 3 Chwefror Rydym yn cyhoeddi ein hymateb i benderfyniad y brifysgol sy'n amlinellu'r hyn a wyddom, ein safiad, a'n camau nesaf wrth symud ymlaen. A Rhannodd Rhobyn neges o waelod calon â myfyrwyr Llambed.
  • Dydd Iau 23 Ionawr Cyhoeddodd y Brifysgol ei phenderfyniad i symud y cyrsiau Dyniaethau o Lambed i Gaerfyrddin trwy e-bost at y myfyrwyr. Ac fe wnaethom ni rannu ein hymateb cychwynnol a siarad ynglŷn â chael sicrwydd.
  • Dydd Mercher 18 Rhagfyr Fe gyhoeddom ein pumed ymateb lle darparwyd y wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud fel eich Undeb Myfyrwyr a'n camau nesaf ar ôl Gwyliau'r Gaeaf.
  • split into three sections with three different people being interviewed in front of book shelves
    Dydd Iau 12 Rhagfyr
    Fe ryddhawyd ein Fideo Barn Myfyrwyr ar ein Instagram, gan dynnu sylw at fyfyrwyr y mae'r cynnig hwn yn effeithio arnynt.
  • two people holding signs that read "my choice matters", "Where I belong"Dydd Mawrth 3 Rhagfyr Fe gyhoeddom ein pedwerydd ymateb oedd yn amlinellu’r hyn a wyddom am y sefyllfa barhaus a rhannu gwybodaeth a ddarparwyd gan y Brifysgol i ni ar rai o’r camau rhagweithiol y maent wedi’u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i helpu i gynyddu nifer yr ymgeiswyr i astudio yn Llambed.
  • Dydd Mawrth 3 RhagfyrMae'r Brifysgol yn ateb ein cwestiynau.
  • Group of ten students hold make-shift signs that read collectively as "Lampeter is..., community, humanities, historical, save, students, love, home, where I belong, we are lampeter'
    Dydd Gwener 29 Tachwedd Fe gynhaliom Hyfforddiant Ymgyrchu ar gyfer ein myfyrwyr
  • Dydd Mercher 27 TachweddCynhaliwyd sesiynau datblygu sgiliau pellach i fyfyrwyr sy'n dymuno ymgyrchu.
  • Dydd Mawrth 19 TachweddCyhoeddwyd ein trydydd ymateb sy'n rhoi sylw penodol i farn a syniadau myfyrwyr.
  • Large group of students sat at several tables with markers and sheets of paper
    Dydd Iau 14 TachweddCynhaliwyd gweithdy trefnu myfyrwyr.
  • Dydd Mercher 13 TachweddFe gyhoeddwyd ein hail ymateb yn dilyn Sgwrs y Myfyrwyr - gan fynd trwy'r ffeithiau hyd yn hyn.
  • Dydd Mercher 13 TachweddFe wnaethom fynychu sgwrs y Brifysgol ynghylch y cynnig, gan gynrychioli buddiannau myfyrwyr i'r Brifysgol, a gofyn ein cwestiynau iddynt.
  • Dydd Mercher 13 TachweddCynhaliom gyfarfod trefnu myfyrwyr cyn Sgwrs y Myfyrwyr â’r Brifysgol.
  • Dydd Mawrth 12 TachweddFe wnaethom ymateb i ymholiadau'r wasg gan y Cambrian News.
  • screenshot of person being interviewed
    Dydd Mawrth 12 Tachwedd
    Fe wnaethom ymateb i ymholiadau'r wasg gan y BBC ac S4C, gyda Llywydd UCM Cymru, Deio Owen, yn cael ei gyfweld.
  • Dydd Llun 11 TachweddCyhoeddwyd galwad agored am farn myfyrwyr ar y cynnig newydd.
  • Dydd Llun 11 TachweddFe gyhoeddom ein hymateb cychwynnol ein hymateb cychwynnol i gynnig y Brifysgol - sy'n amlinellu'r cwestiynau rydym yn gofyn iddynt eu hateb yn ffurfiol.
  • Dydd Llun 11 TachweddFe gyhoeddodd y Brifysgol ei chynnig i symud cyrsiau o Lambed i Gaerfyrddin trwy e-bost i fyfyrwyr.
  • Dyna bopeth am y tro

Cwestiynau Cyffredin

Mae'r sefyllfa'n gyfnewidiol ac mae'n llawer i'w gymryd i mewn - felly rydyn ni wedi llunio rhai Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu chi. Ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch anfon e-bost atom yn union@uwtsd.ac.uk a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu’n ôl â chi.

Rwy'n fyfyriwr yn Llambed ar hyn o bryd - sut ydw i'n rhannu fy marn am y cynnig?

Anfonwch e-bost i union@uwtsd.ac.uk a bydd eich sylwadau’n cael eu ffeilio a'u trosglwyddo i aelodau tîm yr Undeb sy'n ymwneud â'r ymgyrch.

Rwy'n Gyn-fyfyriwr Llambed - a allaf gymryd rhan?

Rydym yn gweithio gyda myfyrwyr presennol Llambed i leisio eu pryderon. Os ydych yn Gyn-fyfyriwr, gallwch rannu eich barn â'r Brifysgol yn uniongyrchol yn questions@uwtsd.ac.uk - ac efallai y byddwch am ymwneud â Chymdeithas Llambed.

Rwyf eisiau helpu'r ymgyrch - ble ydw i'n dechrau?

Anfonwch e-bost atom yn union@uwtsd.ac.uk a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â'r tîm ac yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch chi gymryd rhan.

Mae'r holl sefyllfa wedi peri cryn straen i mi - a allaf gael cefnogaeth?

Gallwch gael cefnogaeth gennym ni trwy e-bostio unionadvice@uwtsd.ac.uk a hefyd y rhaglen cymorth myfyrwyr.