Etholiadau’r Hydref yw eich cyfle i gynnig eich hun ar gyfer rhai rolau cyffrous; gwnewch yn siŵr bod llais myfyrwyr yn cael ei glywed. Mae yna ddigonedd o rolau i chi ymwneud â nhw Mae Etholiadau’r Hydref yn ein helpu i lenwi'r swyddi gwag ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-21.
Dechrau'r Cyfnod Enwebu
Dydd Mercher 7 Hydref 10am
Diwedd y Cyfnod Enwebu
Dydd Iau 5 Tachwedd 10am
Briffio’r Ymgeiswyr*
Dydd Iau 5 Tachwedd: 5.30pm
Dyddiad cau ar gyfer Maniffestos
Dydd Llun 9 Tachwedd 10am
Bydd y cyfnod pleidleisio’n agor
Dydd Llun 16 Tachwedd 10am
Daw’r cyfnod pleidleisio i ben
Dydd Iau 19 Medi 3pm
Caiff y canlyniadau eu rhyddhau
Dydd Gwener 20 Tachwedd
*Anfonir gwahoddiad calendr i ymgeiswyr i gyfarfod Teams ar gyfer Briffio’r Ymgeiswyr. Mae Briffio’r Ymgeiswyr yn orfodol: byddwn yn trafod y rheolau, y llinellau amser, a beth i'w ddisgwyl o'r etholiadau.
Cliciwch y botwm isod i arwyddo i mewn i adran enwebiadau'r wefan a gweld pa rolau y gallwch chi sefyll ar eu cyfer.
Enwebwch Eich Hun YmaGallwch hefyd enwebu ffrind. Cliciwch y botwm isod i lenwi ffurflen enwebu ar gyfer ffrind rydych chi'n meddwl byddai’n ddelfrydol ar gyfer rôl.
Enwebu FfrindCynhelir yr enwebiadau a’r pleidleisio trwy ein gwefan. Bydd angen i chi greu cyfrif gyda’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr.
Rhaid i chi ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost myfyriwr, gan fod hon yn un o’r ffyrdd a ddefnyddiwn i sicrhau eich bod yn gymwys i gymryd rhan.
Methu â gwneud enwebiad neu bleidleisio, ond yn credu eich bod yn gymwys? Cysylltwch â ni yn etholiad@uwtsd.ac.uk
Gallwch ddod o hyd i’r rheolau ar gyfer yr etholiadau yma:
uwtsdunion.co.uk/cy/election/about/rules.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau o gwbl, cysylltwch â ni trwy:
etholiad@uwtsd.ac.uk.
Mae rôl Swyddogion Rhan-amser neu 'SRhA' yn seiliedig ar bortffolio er mwyn cynrychioli grwpiau diddordeb arbennig a / neu ddemograffeg. Maent yn gweithio gyda'r swyddogion llawn-amser i gynrychioli myfyrwyr. Mae'r swyddogion sydd yn y rolau hyn yn mynychu eu Cyngor Campws perthnasol.
Mae pob un o Rolau Campws Caerfyrddin yn mynychu Cynghorau Campws Caerfyrddin: dydd Mawrth 10 Tachwedd, dydd Iau 28 Ionawr 2021, a dydd Iau 22 Ebrill 2021
Mae pob un o Rolau Campws Llambed yn mynychu Cynghorau Campws Llambed: dydd Mercher 11 Tachwedd, dydd Mercher 27 Ionawr 2021, a dydd Mercher, 21 Ebrill 2021
Mae pob un o Rolau Campws Abertawe yn mynychu Cynghorau Campws Abertawe: dydd Iau 12 Tachwedd, dydd Iau 28 Ionawr 2021, a dydd Iau 22 Ebrill 2021
Mae’r Cadeirydd yn cadeirio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr a phob cyfarfod o Gyngor Mawr yr UM (pump y flwyddyn). Mae'r rôl yn bodoli i sicrhau bod y drafodaeth a’r ddadl mewn cyfarfodydd yn deg a chytbwys, a bod pawb yn cael cyfle teg i siarad a rhannu eu meddyliau a'u syniadau.
Mae Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn helpu i sicrhau bod yr Undeb yn cael ei redeg er budd gorau myfyrwyr PCyDDS trwy graffu ar berfformiad a sicrhau bod yr Undeb yn cydymffurfio â'r gyfraith ac yn cael ei redeg mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy. Mae gan yr ymddiriedolwyr reolaeth gyfreithiol dros y sefydliad, ac maent yn bersonol gyfrifol amdano.
The National Union of Students Wales (NUS Wales) holds a national conference every year. This conference sets policy for the year ahead and elects the President, Vice President and other representatives. It is also where the budget for the year ahead is decided through the Annual General Meeting (AGM). UWTSD Students' Union has the opportunity to send delegates to this conference where they can voice their opinions, partake in debates, and vote in the elections and AGM.
The National Union of Students (NUS) holds a national conference every year. This conference sets policy for the year ahead and elects the President, Vice President and other representatives. It is also where the budget for the year ahead is decided through the Annual General Meeting (AGM). UWTSD Students' Union has the opportunity to send delegates to this conference where they can voice their opinions, partake in debates, and vote in the elections and AGM.