Etholiadau Myfyrwyr

Mae Undeb Myfyrwyr PCyDDS yn fudiad democrataidd, dan arweiniad myfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Felly, mae etholiad Undeb y Myfyrwyr yn rhoi cyfle i bob myfyriwr ddweud ei ddweud yn y ffordd y mae'n cael ei redeg a'i gyfeiriad ar gyfer y dyfodol.

Rydyn ni'n cynrychioli myfyrwyr ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, ac rydyn ni'n ymgyrchu dros y newidiadau y mae ein haelodau wedi gofyn amdanyn nhw, yn ogystal â darparu gwasanaethau i wella eu hamser yn y Brifysgol.

Er mwyn sicrhau ein bod yn berthnasol ac yn effeithiol yn ein gwaith, rydym bob amser angen myfyrwyr i ymwneud ag Undeb eu Myfyrwyr, trwy bleidleisio, trwy drafod polisi, dweud wrthym beth sydd angen i ni ei wneud yn well, a thrwy sefyll mewn etholiadau. 

Mae ein Hetholiadau blynyddol yn caniatáu i chi benderfynu pwy rydych chi am eu gweld yn dal swyddi arweinyddiaeth yn Undeb y Myfyrwyr. Gall unrhyw fyfyriwr gynnig ei enw ar gyfer rôl, ac mae pob myfyriwr yn cael pleidleisio.

Swyddogion Sabothol

Mae gan eich Undeb Myfyrwyr bedair rôl ar gyfer Swyddogion Sabothol Agored i bob myfyriwr a 3 Llywydd Campws yn agored i fyfyrwyr Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe.

Mae'r rhain yn rolau llawn-amser, cyflogedig. Byddech chi naill ai’n cymryd blwyddyn allan o'ch astudiaethau neu'n ymgymryd â’r rôl yn syth ar ôl cwblhau'ch gradd.

Gyda'i gilydd, mae’r Swyddogion Sabothol yn arwain Undeb y Myfyrwyr o ddydd i ddydd, gan ddarparu cyfeiriad i dîm staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn ystyried Swyddogion Sabothol yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr ac maen nhw'n darparu syniadau a barn ar amrywiaeth o faterion trwy gyfranogi mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau yn y Brifysgol.

Mwy am Swyddogion Sabothol

Swyddogion Rhan-amser

Yn agored i fyfyrwyr Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe. Mae Swyddogion Rhan-amser yn cynrychioli cymuned benodol o fyfyrwyr, ac maen nhw’n mynychu Cyngor y Campws.

Mwy am Swyddogion Rhan-amser

 

Cadeirydd yr Undeb

Agored i bob myfyriwr. Mae Cadeirydd yr Undeb yn darparu cyfarwyddyd yn ystod trafodaethau yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chynghorau’r Undeb - gan sicrhau bod y trafodaethau’n deg ac yn gytbwys.

Mwy am Gadeirydd yr Undeb

Myfyrwyr Ymddiriedolwyr

Agored i bob myfyriwr. Mae bron pob elusen yn cael ei harwain gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Mae Myfyrwyr Ymddiriedolwyr yn ymuno â'n Bwrdd, sef y corff sy’n gwneud ein penderfyniadau terfynol; nhw sy'n gyfrifol am ein llwyddiant. Dyma ein lefel uchaf o reolaeth a llywodraethiant.

Mwy am Ymddiriedolwyr

Cynrychiolwyr i Gynadleddau UCM

Agored i bob myfyriwr. Fe ddylech chi sefyll i fod yn Gynrychiolydd UCM os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynrychioli eich Undeb Myfyrwyr i UCM yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM! Mae hwn yn gyfle i chi bleidleisio ar bolisïau, gosod cyfeiriad UCM ac ethol Swyddogion UCM.

Dysgwch fwy am Gynrychiolwyr i’r Gynhadledd

Cwestiynau Cyffredin

Meddwl sefyll am un o'r rolau, ond mae gennych chi ychydig o gwestiynau? Edrychwch ar rai o'n cwestiynau cyffredin isod! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn election@uwtsd.ac.uk.

Mae hyn yn dibynnu ar y rôl; yn achos rolau sy’n benodol ar gyfer Campws fel Llywyddion Campws a Swyddogion Rhan-amser, mae angen i chi fod yn fyfyriwr ar y campws hwnnw. Yn achos Myfyrwyr Ymddiriedolwr a Chadeirydd yr Undeb, gallwch fod o unrhyw gampws neu ganolfan ddysgu.

Gall myfyrwyr Birmingham sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Gall myfyrwyr Caerdydd sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Gall myfyrwyr Caerfyrddin sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Llywydd Campws Caerfyrddin
  • Swyddogion Rhan-amser Caerfyrddin 
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Gall myfyrwyr Llambed sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Llywydd Campws Llambed
  • Swyddogion Rhan-amser Llambed 
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Gall myfyrwyr Llundain sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Gall myfyrwyr Abertawe sefyll am rôl

  • Llywydd y Grŵp
  • Llywydd Campws Abertawe
  • Swyddogion Rhan-amser Abertawe 
  • Myfyriwr Ymddiriedolwr
  • Cadeirydd yr Undeb

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod yn gymwys i sefyll am y rôl honno. Ar gyfer rhai rolau mae angen i chi fod yn fyfyriwr sy'n astudio ar y campws hwnnw. Os ydych chi’n dal i gael anawsterau, cysylltwch â ni election@uwtsd.ac.uk. 

Dim byd; byddwn yn ad-dalu unrhyw arian y byddwch chi’n ei wario yn yr etholiad. Mae gan bob ymgeisydd gyllideb i gadw ati - gallwch ddarllen hon yn ein rheoliadau ariannol.

Rydyn ni wedi gosod rhai adnoddau a chwestiynau ar y wefan i'ch helpu chi i ysgrifennu'ch maniffesto! Mynnwch sgwrs gyda'ch ffrindiau a’r rheiny sydd ar eich cwrs er mwyn dysgu am yr hyn mae myfyrwyr am ei weld ei weld gan eu Hundeb Myfyrwyr a'u Prifysgol. 

Gweler yr Adnoddau ar gyfer creu Maniffesto

Bydd pob Swyddog Etholedig, Ymddiriedolwr a Chadeirydd yr Undeb yn derbyn hyfforddiant ar gyfer eu rôl, felly peidiwch â phoeni am beidio â gwybod popeth ar unwaith!  

Oes! Rydym yn cynnal sawl sesiwn i gynnig cymorth i ymgeiswyr, a gallwch edrych ar ein hyb adnoddau’r ymgeiswyr i ddod o hyd i fwy hefyd.  

Gweler Adnoddau’r Ymgeiswyr

Os na allwch fewngofnodi trwy'r wefan, e-bostiwch election@uwtsd.ac.uk a bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. E-bostiwch cyn gynted ag y byddwch yn sylweddoli hyn - allwn ni ddim gwneud unrhyw beth ar ôl i'r pleidleisio gau.

Gwiriwch ein Rheoliadau Etholiadol i weld a ydych chi'n credu bod ymgeisydd wedi gweithredu’n groes i Egwyddorion yr Etholiadau. Os ydych chi’n credu eu bod nhw, llenwch y Ffurflen Cwyno am Etholiadau i gyflwyno'ch cwyn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â'r Tîm Etholiadau yn election@uwtsd.ac.uk.