Swyddogion Sabothol
Dylech sefyll i fod yn swog os oes gennych syniadau a brwdfrydedd ac os ydych yn barod i ymgymryd â chynrychiolaeth myfyrwyr fel swydd lawn amser am flwyddyn.
- Llywydd y Grŵp
- Llywydd Campws Caerfyrddin
- Llywydd Campws Llambed
- Llywydd Campws Abertawe
Mae gan UMYDDS bedwar rôl llywydd ar gael yn yr etholiad hwn. Y rolau yw Llywydd y Grŵp (un brif rôl sy'n gweithio ar bob campws) a llywydd campws ar gyfer campysau Abertawe, Llambed a Chaerfyrddin. Gyda'n gilydd, mae tîm y swyddogion yn arwain Undeb y Myfyrwyr yn ddyddiol, gan ddarparu arweiniad i staff yr undeb a sicrhau bod gwaith y mudiad yn berthnasol i brofiad ein myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn ystyried ‘swogs’ yn brif gynrychiolwyr y myfyrwyr ac maen nhw'n darparu syniadau, materion a barn ar amrywiaeth o destunau drwy gyfranogi mewn gwaith prosiect, partneriaeth a phwyllgorau yn y Brifysgol. Swogs sy'n gosod yr agenda o ran syniadau a gweithgareddau newydd i Undeb y Myfyrwyr roi cynnig arnynt ac maent yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn ymwybodol o ddiben eu Hundeb a sut mae modd cysylltu ag ef. Hefyd, mae swyddogion sabothol yn gweini'n awtomatig fel ymddiriedolwyr etholedig Undeb y Myfyrwyr, a dylai unrhyw ymgeisydd ddarllen adran yr ‘Ymddiriedolwyr’ isod, gan roi sylw penodol i'r rheolau cymhwysedd.
Mae cyfrifoldebau pob Swyddog Sabothol yn cynnwys...
- Gweithio mewn ffordd sy'n hyrwyddo gwerthoedd a chenhadaeth Undeb y Myfyrwyr ac sydd ddim yn dwyn anfri ar yr Undeb.
- Cynrychioli barn myfyrwyr yn effeithiol i'r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill er mwyn hyrwyddo profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
- Cyfranogi'n llawn yng nghylchred pwyllgorau'r Brifysgol drwy fynychu pwyllgorau, grwpiau a byrddau dynodedig a chynrychioli buddiannau myfyrwyr UMYDDS.
- Sicrhau bod yr Undeb yn gweithredu'n unol â'i gyfansoddiad a'i is-ddeddfau.
- Gweithredu'n dryloyw, a darparu myfyrwyr â'r newyddion diweddaraf drwy erthyglau, blogs a dulliau eraill o gyfathrebu fel yr ystyrir i fod yn briodol.
- Deall sut mae materion polisi Addysg Uwch yn effeithio ar fyfyrwyr y presennol a'r dyfodol, rhannu gwybodaeth a chyd-drefnu myfyrwyr i weithredu er eu budd eu hunain.
- Annog myfyrwyr i gyfranogi mewn gweithgareddau sy'n cryfhau llais myfyrwyr, yn gwella eu profiad yn y Brifysgol, yn datblygu eu sgiliau a/neu'n creu cymuned ffyniannus ac apelgar
- Gweithredu fel 'Ymddiriedolwr Sabothol' ar Fwrdd Ymddiriedolwyr UMYDDS yn unol ag Erthyglau 24-50 o'r Memorandwm ac Erthyglau Cydgysylltiad.
- Hyrwyddo polisïau craidd yr UM, gan gynnwys ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal; dim goddefgarwch i aflonyddu; cynaladwyedd; a dwyieithrwydd a'r Gymraeg.
- Cynyddu cyfranogiad myfyrwyr ym mhob agwedd o brosesau, strwythurau a gweithgareddau'r Undeb.
- Gweithio gyda'i gilydd fel tîm i gryfhau a hyrwyddo amcanion Undeb y Myfyrwyr
Mae cyfrifoldebau Llywyddion y Campysau'n cynnwys...
- Goruchwylio'r ddarpariaeth o weithgareddau a chyfleusterau ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr, a datblygu'r ystod o weithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael ar bob campws.
- Datblygu cyfleoedd i fyfyrwyr gyfranogi'n lleol mewn gweithgareddau a gwirfoddoli.
- Cynorthwyo â datblygiad system gynrychiolaeth y myfyrwyr a darparu cyngor, arweiniad a chymorth i Gynrychiolwyr Cwrs a Chyfadran fel bo angen.
- Sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i hadrodd yn ôl rhwng Undeb y Myfyrwyr, y Brifysgol a Myfyrwyr parthed materion o bwys, buddugoliaethau a heriau.
- Hyrwyddo a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol y Brifysgol.
- Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo llesiant myfyrwyr ac yn hybu cydlyniad cymunedol.
- Mynychu Cynghorau Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws perthnasol, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt
Mae cyfrifoldebau Llywydd y Grŵp yn cynnwys...
- Cynrychioli myfyrwyr ar gampysau Birmingham, Llundain a Chaerdydd a datblygu system o gynrychiolaeth ar y campysau hynny sy'n gweithio dros anghenion y myfyrwyr.
- Cynnal cysylltiad â chynrychiolwyr yn y colegau sy'n bartneriaid i UMYDDS, a lle nad oes cynrychiolwyr, gweithio gyda swyddogion cydlynu myfyrwyr i sicrhau bod myfyrwyr ar gyrsiau PCYDDS yn cael eu cynrychioli'n effeithiol.
- Cynrychioli Undeb y Myfyrwyr yng Nghyngor y Brifysgol a Senedd y Brifysgol.
- Cadeirio'r Pwyllgor Gwaith, a chynorthwyo â gwaith Llywyddion y Campysau.
- Mynychu Cyngor Undeb y Myfyrwyr, Cynghorau Myfyrwyr y Campws, a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ac adrodd yn ôl iddynt.