Pleidleisio

 

Mae ein hetholiadau'n defnyddio'r system Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl. Mae hyn yn caniatáu i'n haelodau fwrw eu pleidlais drwy raddio ymgeiswyr yn ôl eu dewis.

Gall pleidleiswyr raddio cymaint neu gyn lleied o ymgeiswyr ag y dymunant a gallant hyd yn oed bleidleisio i Ail-agor Enwebiadau, sy'n ailgychwyn y broses etholiadol. 

I gael ei ethol, rhaid i ymgeisydd gael dros 50% o'r pleidleisiau - cyfeirir at hwn fel y cwota. Cynhelir y pleidleisio fesul rownd; os nad oes unrhyw un yn cyrraedd y cwota yn y rownd gyntaf, yna caiff yr ymgeisydd sydd â'r bleidlais isaf ei fwrw allan  a chaiff ei bleidlais ei rhannu rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill ar sail dewis y pleidleisiwr ailadroddir hyn nes bod enillydd yn cael ei ddatgan. Yn y rownd hon, mae Ymgeisydd A wedi cyrraedd y cwota ac yn cael ei ddatgan yn enillydd.