Rheolau

Mae 5 egwyddor graidd y mae’n rhaid i bob ymgeisydd gadw atynt; bydd methu â gwneud hynny yn peri i’r ymgeisydd fod yn destun cosb neu sancsiynau sy’n amrywio o gyfyngu ar wahanol fathau o ymgyrchu, neu mewn achos mwy eithafol o gael ei diarddel o’r etholiad. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, mae’r defnydd o’r term ‘ymgeisydd’ neu ‘ymgeiswyr’ hefyd yn cyfeirio at ymgyrchwyr neu dimau ymgyrchu. 

Rheoliadau Etholiadol PDF

Ni chaiff ymgeiswyr sefyll a gwylio myfyrwyr wrth iddynt bleidleisio, gan y byddai’r myfyriwr dan bwysedd i bleidleisio dros yr ymgeisydd hwnnw. Dylai ymgeiswyr symud ymhell oddi wrth y myfyrwyr pan fyddant yn pleidleisio. Tra bod gennych hawl i ddosbarthu taflenni a losin er mwyn i fyfyrwyr eich cofio chi a gwrando arnoch, ni chewch gynnig gwobr i fyfyrwyr (losin, arian a.y.b.) sydd ond ar gael iddynt ar ôl iddynt bleidleisio drosoch chi, gan y byddai hynny’n cael ei ystyried i fod yn dylanwadu ar bleidlais y myfyriwr.

Golyga hyn bod rhaid i chi fel ymgeisydd a’ch tîm ymgyrchu, bob amser gydymffurfio â’r gyfraith, rheoliadau’r Brifysgol (megis y cod ymddygiad, rheolau iechyd a diogelwch, gweithdrefnau cyfleoedd cyfartal, cod aflonyddu, difrod i eiddo’r Brifysgol, a’r defnydd o e-bost a.y.b.) yn ogystal â pholisi’r Undeb. Gall gweithredu’n groes i’r polisïau hyn arwain at weithred ddisgyblu, a allai yn ei dro effeithio ar eich statws fel myfyriwr a’ch aelodaeth o’r Undeb.

Mae’r egwyddor hon yn ymwneud â sawl maes. Er enghraifft: mae difrodi deunydd cyhoeddusrwydd ac ymyrryd ag areithiau ymgeiswyr eraill ymysg y pethau a ystyrir i fod yn groes i’r egwyddor hon.

Rhaid i eitemau a gynhyrchir neu a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer eich ymgyrch gael eu cyfrif o fewn y lwfans a roddir, yn unol â’r rheoliadau cyllidol sy’n perthyn i etholiadau’r undeb (gweler isod). Ni chaiff ymgeiswyr wario mwy na’r lwfans uchaf; mae hyn ar waith i atal ymgeiswyr rhag cael mantais annheg.

Bydd gan bob ymgeisydd gyfle cyfartal i ymgyrchu ac ymgysylltu â myfyrwyr. Mae hyn yn golygu na allwch ddefnyddio dulliau a sianelau i ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt ar gael yn rhwydd i bob ymgeisydd. Ni chaiff ymgeiswyr ymgyrchu tan ddechrau’r cyfnod ymgyrchu. Gall ymgyrchu ddechrau cyn i’r pleidleisio agor neu ar yr un diwrnod. Caiff yr union ddyddiad ei wneud yn eglur i’r ymgeiswyr i gyd. Golyga hyn, er enghraifft, na chewch weiddi allan mewn darlithoedd na gosod posteri cyn dechrau’r cyfnod ymgyrch

 

Rheoliadau Ariannol

Ar gyfer pob rôl, rhoddir terfyn o £30 ar wariant pob ymgeisydd, a gaiff ei ad-dalu iddynt. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau a ddefnyddir gan ymgeisydd gael eu cynnwys yn eu datganiad o wariant, ynghyd â derbynebau neu amcangyfrif rhesymol o bris y farchnad. Mae’r eitemau canlynol ar gael i bob ymgeisydd a’u cefnogwyr, ac felly ni osodir gwerth ariannol ar y defnydd teg ohonynt. Hen grysau-T; paent; hen gynfasau gwely: pennau marcio; Blu-tack; cardfwrdd neu bren wedi’i ailgylchu; pensiliau; llinyn; tâp gludiog; pinnau.

SYLWCH: Mae’r rheol hon wedi ei chynnwys er mwyn helpu’r ymgeiswyr i wneud cyfnod yr etholiad yn gyffrous, yn fywiog ac yn uchel ei broffil. Mae’r swyddog etholiadau a’i ddirprwy yn ymwybodol y gall y rheol hon fod yn agored i gam- ddefnydd, ac o’r herwydd, byddant yn cadw llygad barcud ar adnoddau ymgyrchu. Cofiwch mai nhw yw’r bobl sy’n penderfynu beth yw ‘defnydd teg’.

 

Chwynion ac Apeliadau

Dylid cyflwyno pob cwyn a wneir am ymgeiswyr, ymgyrchwyr, swyddogion etholiad neu’r broses bleidleisio ar-lein, gan ddefnyddio’r ffurflen hon a rhaid gwneud hynny cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Dim ond cwynion a gyflwynir mewn ysgrifen a gaiff eu hystyried.

  • Dynnu sylw at y rheol etholiadol sydd wedi’i thorri
  • Darparu tystiolaeth o’r rheol sydd wedi’i thorri
  • Awgrymu camau rhesymol i’w cymryd.

Bydd y DSE, neu’r sawl a enwebir ganddo, yn ymchwilio i gwynion ac yn cyfeirio materion at y SE am benderfyniad. Dylid cyflwyno unrhyw gwynion ynglŷn ag ymddygiad y Dirprwy Swyddog Etholiadau mewn ysgrifen yn uniongyrchol i’r Swyddog Etholiadau.

Rhaid i bob cwyn gael ei gyflwyno o fewn 24 awr o’r digwyddiad honedig, a rhaid iddo gyrraedd y tîm etholiadau erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Dim ond cwynion ynglŷn â phroses y cyfrif ei hun a gaiff eu hystyried unwaith y bydd y cyfrif wedi dechrau; rhaid eu cyflwyno o fewn 24 awr i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Chwynion ac Apeliadau

 

Gweithdrefn Apeliadau

Gall ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Swyddog Etholiadau neu ei Ddirprwy trwy gyflwyno eu hapêl mewn ysgrifen, o fewn 24 awr i’r penderfyniad gael ei wneud, gan ddilyn y weithdrefn apelio a ddisgrifir isod:

  • Caiff cam cyntaf yr apêl ei glywed gan y Swyddog Etholiadau; os yw’r ymgeisydd yn dal i fod yn anfodlon yna:
  • Cyflwynir ail gam yr apêl i Bwyllgor Llywodraethiant, Enwebiadau a Phenodiadau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a fydd yn clywed yr achos a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, yn ogystal â’r achos o blaid gosod sancsiynau gan y Swyddog Etholiadau neu Ddirprwy a enwebir ganddo.
  • Cyflwynir cam olaf yr apêl i Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol neu ddirprwy a enwebir ganddo.